Mae Caerdydd yn lle gwirioneddol gyffrous ar hyn o bryd, Mae gennym ddinas ifanc sy’n tyfu’n gyflym, gyda swyddi’n cael eu creu, tai’n cael eu hadeiladu a gwerth biliwn o bunnoedd o seilwaith rheilffyrdd rhanbarthol ar ei ffordd. Mae yna fywiogrwydd gwirioneddol o gwmpas y brifddinas.

Eto mae hyn yn ein dwyn wyneb yn wyneb â heriau twf. Mae dinasoedd o gwmpas y byd wedi bod yn brwydro yn erbyn tagfeydd trafnidiaeth. Gwyddom fod hwn yn fater o’r pwys pennaf i bobl Caerdydd, ac yn awr mae pobl yn sylweddoli fwyfwy bod cerbydau modur yn llygru’r aer yr ydym yn ei anadlu mewn modd peryglus.

Yng Nghymru mae gennym yn awr, fel sy’n briodol, ddyletswydd gyfreithiol yn ogystal â moesol i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir gennym o fudd i genedlaethau’r dyfodol. Felly wrth i ni lunio ein dinas a dyfodol Cymru gallwn ddysgu llawer o brofiadau gwledydd eraill ac, yn bwysig iawn, i ble maen nhw’n mynd o safbwynt trafnidiaeth (neu ‘fudoledd’ fel y cyfeirir ato yn awr ar draws Ewrop).

Dyma paham yr euthum yn ddiweddar i Frwsel i gymryd rhan mewn digwyddiad ar Ddyfodol Trafnidiaeth, a gynhaliwyd gan Rwydwaith Cities Today, gyda’r bwriad o gyfnewid arfer da a  syniadau arloesol mewn datblygu trefol. Dyma’r hyn a ddarganfûm:

Yn gyntaf, roedd yr hyn nas trafodwyd mewn gwirionedd yn ddiddorol:-

Mae’r ddadl sy’n dal i ddigwydd mewn llawer man yn y DG am fanteision beicio yn amlwg wedi ei hennill ar y cyfandir. Pan fydd dinasoedd Ewropeaidd yn dylunio eu rhwydweithiau trafnidiaeth, mae beicio’n cael blaenoriaeth. Mae’r peth mor amlwg!

Mae poblogrwydd beicio yn awr yn anhygoel. I’r rhai hynny nad ydynt mor frwdfrydig am feicio, mae yna bethau arloesol-ddiddorol ar eu ffordd i’r farchnad. Mae cynnydd mewn beiciau trydan ac mae yna’r micro-sgwteri trydan newydd poblogaidd – a’r rhai a ddaeth ag Uber i ni wrth ei wraidd.

Y ddadl arall sydd wedi ei hennill yn ôl pobl golwg, yn Ewrop o leiaf, yw bod ceir yn dal dinasoedd yn ôl. Maen nhw’n ddrwg i’n hiechyd, maen nhw’n creu tagfeydd ar y ffyrdd ac yn distrywio’r amgylchedd. Mae pob dinas yn awr yn ceisio cael pobl i ddod allan o’u ceir, jyst peidiwch disgwyl i bob gwleidydd gydnabod hyn.

Felly am beth mae’r bobl sy’n arwain y ffordd ar y materion hyn ar draws Ewrop yn son?

System drafnidiaeth gyhoeddus cludiant torfol fel dull o gael pobl o gwmpas y ddinas yw asgwrn cefn unrhyw rwydwaith drafnidiaeth bob amser. Waeth beth fo’r syniadau newydd a’r dyfeisiau sgleiniog – rhaid i’r cam cyntaf ymwneud â chael y pethau syml yn iawn.

Rwy’n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru’n ymddangos fel petaent yn gwneud yr union beth hwn gyda Metro De Cymru; darparu rhwydwaith rheilffordd ysgafn o’r radd flaenaf sy’n dwyn pobl o ble maent yn byw i’r man lle maent yn gweithio, yn gyflym a glân.

Lle nad yw rheilffyrdd neu dram yn bosibl mae dinasoedd yn defnyddio Teithio Cyflym mewn Bysiau – bysiau cyflym nad ydynt yn aros ym mhob arosfan – neu ddatrysiadau mwy creadigol fel monoreilffyrdd neu geir cebl. O ddifrif, edrychwch i weld. Yr unig beth fedrai wneud Cymru’n harddach yw’r olygfa o’r awyr.

Felly beth allwn ni ddisgwyl ei weld nesaf?

‘On-demand first’/’last mile services’ (Mae’r derminoleg heb ei sefydlu eto!): Dychmygwch hyn: bws mini sy’n eich casglu o’r orsaf Fetro, yr ydych wedi bwcio lle arno drwy gyfrwng ‘app’, ac sy’n eich dwyn i ddrws eich cartref, ac yn costio ychydig o bunnoedd. Rhywbeth rhwng tacsi a bws. Mae cwmnïau fel Uber a Mytaxi eisoes yn gweithredu modelau tebyg. Mae dinasoedd, fodd bynnag, ar ei hôl hi o safbwynt datblygu a rheoleiddio’r cyfle hwn, ac mae’n anoddach fyth i ddinasoedd â ganddynt o hyd gwmnïau bysiau sy’n eiddo i fwrdeistref.

Rhannu Car: Gallech ddadlau mai un o ffolinebau mwyaf dynol ryw yw’r mai’r peth normal yw berchen ein car ein hunan (o leiaf mewn gwledydd datblygedig). Pan fydd pob car yn costio rhyw £4,000 y flwyddyn i’r perchennog, pan fydd yn eistedd mewn diogi am 95% o’r amser, a phan fydd yn llygru’r aer yr ydym yn ei anadlu, mae’n rhaid i chi gydnabod llwyddiant hysbysiadau’r ‘Mad Men’ yng nghanol y 1990au a wnaeth i ni feddwl bod y car yn estyniad ohonom ni ein hunain. Wel, yn anffodus i’r Don Drapers sy’n bodoli heddiw, mae’n ymddangos bod eu gêm wedi dod i ben.

Nid yn unig am ein bod wedi tyfu’n gallach, ond oherwydd bod technoleg aflonyddgar a busnesau craff wedi gweld cyfle i wneud arian, arian mawr, yn un o’r marchnadoedd mwyaf proffidiol erioed drwy ddirnad sut yr ydym yn rhannu ceir. Gall dinasoedd gynorthwyo’r symudiad hwn tuag at annog pobl i ddewis modelau rhatach a glanach drwy bolisïau sy’n ffafrio rhannu cerbydau. Er enghraifft, gallai caniatáu iddynt barcio ceir am ddim, neu hyd yn oed yrru mewn lonydd bysiau fod yn apelgar iawn. Gall y car a rennir ddatblygu i fod y siwpyr-car newydd.

Gallai’r ddau syniad hyn roi llawer o bŵer (ac elw) yn nwylo’r rhai sy’n darparu technoleg. Dyna paham mai cwmnïau ceir eisoes yn prynu ac yn creu partneriaethau rhyngddynt â chwmnïau technegol, a dyna pam mae’n rhaid i ddinasoedd sicrhau bod llwyfannau ar gael i integreiddio dulliau o deithio ynghyd â rhannu’r data y mae’r gwasanaethau hyn yn ffynnu arnynt.

 Beth mewn gwirionedd a gafodd ei ateb?

Ceir heb Yrwyr

Rhaid i drafodaethau am arloesedd trafnidiaeth yn y dyfodol gynnwys ceir robot, iawn? Ddim i ddweud y gwir. Y consensws cyffredinol oedd bod awtomeiddio yn dod, a bod costau llai peidio gorfod talu gyrrwr yn gwneud hyn yn ddeniadol (nid i’r gyrrwr druan, mae’n amlwg). Y consensws yn y cyfarfod oedd mai awtomeiddio (er ei fod efallai’n brif bwynt trafodaeth), mewn ffaith yw’r peth olaf i’w ystyried pan fyddwch yn cynllunio ar gyfer dinasoedd cynaliadwy yn y dyfodol. Newyddion gwael Elon Musk.

Darparu nwyddau

Er gwaethaf yr wybodaeth bod siopa o’r cartref a chludo parseli i’ch drws wedi bod yn digwydd ers amser maith, nid oes llawer o ddealltwriaeth o’r modd y mae’r stwff yn cyrraedd eich cartref. Mae’n amlwg nad oes neb eisiau gweld y gofod ar ein strydoedd sydd wedi ei ennill ar gyfer parcio ein ceir, yn llawn o faniau’n cludo nwyddau i’n drysau.

Os oes gennych ddiddordeb yn y math hwn o stwff mae yna lawer o bethau da y gallwch eu darllen (rwyf i yn hynod hoff o citylab.com). Ac os oes gennych unrhyw beth i’w ychwanegu, neu os hoffech drafod ymhellach unrhyw beth a ddarllenoch, os gwelwch yn dda cysylltwch drwy gyfrwng Trydar@carowild neu ysgrifennwch ataf ar Caro.Wild@caerdydd.gov.uk.

Mae’r Cynghorydd Caro Wild yn Aelod o’r Cabinet Cynllunio Strategol a Thrafnidiaeth gyda Chyngor Caerdydd, sydd ar hyn o bryd yn datblygu Papur Gwyn ar Drafnidiaeth ac Aer Glân.