Yn dilyn y datganiad heddiw gan Lywodraeth Cymru ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd, dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd. Er fy mod yn cydnabod ymdrechion a chyfraniad Llywodraeth Cymru ac eraill tuag at yr agenda datblygu cynaliadwy yng Nghymru, yn arbennig pasio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd Cymru, sefydlu Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd a chyhoeddi’n ddiweddar
Gynllun Cyflawni Carbon Isel y Llywodraeth, mae angen gwneud mwy ar gyfer mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

  • Mae poblogaethau bywyd gwyllt yn fyd-eang eisoes wedi gostwng o 58% ers 1970 ac mae hyn yn debygol o gyrraedd 67% erbyn 2020. Yma yng Nghymru mae yna fygythiadau penodol i briddoedd, adnoddau dŵr ffres, ecosystemau morol, bywyd gwyllt a chynefinoedd, ac rydyn ni nawr ymhlith y gwledydd â’r dirywiad mwyaf mewn natur yn y byd, gydag 1 o bob 14 rhywogaeth bywyd gwyllt yn wynebu difodiant. Heb ecosystemau iach gweithredol, ni fedrwn wrthsefyll, goresgyn, neu addasu i’r newidiadau sy’n wynebu ein planed.
  • Mae tua 11% o stoc adeiladu Cymru wedi ei leoli mewn gorlifdiroedd afon neu arfordirol, gyda 53,000 ohonynt mewn mannau sydd mewn perygl sylweddol o lifogydd o afonydd neu lifogydd arfordirol.
  • Mae 84% o dir Cymru’n amaethyddol. Gall y bydd cynhyrchiant ffermio’n newid yn ddramatig o dan amodau hinsoddol gwahanol, yn arbennig o ystyried bod tua 80% o’r tir hwn eisoes wedi ei nodi fel tir ‘llai ffafriol’ h.y. yn profi amodau tir, amaethu a hinsoddol gwael. Gallai’r newid yn yr hinsawdd hefyd niweidio coetiroedd hynafol, gwrychoedd ac asedau naturiol eraill.

 “Wrth ddatgan argyfwng, rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut mae’n bwriadu ymateb i heriau’r newid yn yr hinsawdd a gyda pha adnoddau, yn benodol yn eu cyllideb flynyddol, a sut y byddant yn cymryd camau i leihau allyriadau.

“Ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, yn dilyn craffu ar y gyllideb, cyhoeddais adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer datgarboneiddio gan amlygu bod angen i fuddsoddi adlewyrchu uchelgais, ac y dylai Llywodraeth Cymru:

  • ddatgan yn glir sut y bydd y camau a nodwyd yn y Cynllun Cyflawni Carbon Isel yn cael eu hariannu er mwyn i ni gyflawni ein targed lleihau allyriadau statudol.
  • ystyried a nodi’r lefel o fuddsoddi traws-Lywodraeth sydd ei angen i gyflawni ein targedau, yn arbennig mewn perthynas â thrafnidiaeth, tai/adeiladau a’r trawsnewidiad i Gymru garbon isel.

“Golyga hyn fuddsoddi mewn datrysiadau trafnidiaeth cynaliadwy megis trenau, bysiau a theithio llesol yn hytrach na ffordd liniaru ar gyfer yr M4, gan sicrhau bod cartrefi newydd ac adeiladau yng Nghymru’n gwbl ddi-garbon a’n bod yn medru ail-osod adeiladau sy’n bodoli eisoes, a buddsoddi mewn cynyddu ynni adnewyddol. Dros y misoedd sy’n dod, byddaf yn lansio cyfres o ganllawiau i gyrff cyhoeddus ac eraill yng Nghymru i’w helpu i gyflawni dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn arbennig, mae’r ‘Daith tuag at Gymru Gydnerth’ a’r ‘Daith tuag at Gymru sy’n Gyfrifol yn Fyd-eang’ yn darparu’r camau ymarferol ac angenrheidiol y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i helpu i leihau eu hallyriadau carbon a chyfrannu’n gadarnhaol i’n pobl a’n planed.

Byddaf yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid o’r sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i amlygu’r her ac annog pawb i gymryd camau brys”.