Addysg addas ar gyfer y Dyfodol yng Nghymru
Papur Gwyn ar gyfer ei drafod
Cynhyrchwyd gan yr Athro Calvin Jones mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Canfu adolygiad[1] diweddar gan Lywodraeth Cymru y bydd technolegau digidol yn arwain at ddisodli a chreu swyddi dros y ddegawd nesaf, gyda mwy o effaith ar sut rydym ni’n cael profiad o waith ac yn mynd i’r afael â gwaith. Ymhlith y canfyddiadau, mae’r adolygiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i symud y ffocws oddi ar arholiadau profion ac achredu, er mwyn pwysleisio gwybodaeth, addysg a sgiliau.

Meddai  Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Mae meddwl am y modd rydym ni’n gwerthfawrogi, asesu a darparu sgiliau ar gyfer y dyfodol yn hanfodol. Canfu Adroddiad Swyddi’r Dyfodol 2018 fod disgwyl i 75 miliwn o swyddi gael eu disodli erbyn 2022 mewn 20 o’r prif economïau, dan ddylanwad cynnyrch newydd a thwf. Ond, allwn ni ddweud yn hyderus fod ein system addysg bresennol yn barod ac yn darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer ein pobl ifanc a a gweithluoedd y dyfodol?

“Bydd Cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru 2022 yn darparu rhyw gymaint o’r atebion, ond mae angen dull systemau cyfan o weithredu. Dangosodd asesiad diweddar o gynnydd cyrff cyhoeddus at weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol eu bod yn methu wrth geisio gweithredu dull hirdymor i gynllunio a llunio polisi. Bydd sicrhau fod gan ein pobl ifanc y sgiliau cywir ar gyfer y dyfodol yn cryfhau ein gwasanaethau cyhoeddus a’r penderfyniadau a wneir ganddynt.

“Dyma pam yr ydw i’n galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl y cymwysterau a’r asesiadau, yn enwedig arholiadau TGAU, gan archwilio’r cyfle i greu cymhwyster newydd sy’n adeiladu ar sgiliau craidd a amlygwyd ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â sicrhau fod yr adnoddau cywir ar gael i athrawon ac ysgolion allu darparu cwricwlwm newydd Llywodraeth Cymru. Fel yr awgryma’r papur, mae angen i asesiad fod yn rhywbeth sy’n ychwanegu gwerth, ac yn ddisgybl-ganolog (drwy gydol y rhaglen, nid dim ond ar y diwedd) ac yn amrywiol.

Ymhlith argymhellion y papur mae:

  1. Mae angen cynnydd sylweddol yn nifer y staff addysgu a’r adnoddau er mwyn darparu’r cwricwlwm newydd.
  2. Dylid creu a darparu dysgu mewn partneriaeth â busnesau, elusennau a sefydliadau eraill ledled Cymru.
  3. Nid yw TGAU bellach yn addas i’w pwrpas a dylent gael eu hailystyried er mwyn adlewyrchu uchelgais Cwricwlwm i Gymru 2022 a’r economi sy’n newid.
  4. Mae angen i asesiadau ganolbwyntio ar amrywiaeth, bod yn troi o gwmpas disgyblion, nid profion, gan ddarparu mwy o werth a budd academaidd.

Meddai’r Athro Calvin Jones, Prifysgol Caerdydd:

“Mae’r cwricwlwm newydd yn sail gadarn i adeiladu dyfodol ein plant arni ond nid yw’n ddigonol. Dim ond pan fydd ysgolion ac athrawon yn cael yr adnoddau a’r offer i ddarparu’r weledigaeth drawsnewidiol hon, ac y bydd cymwysterau’n adlewyrchu’n llawn y sgiliau bywyd amrywiol sy’n angenrheidiol ar gyfer llewyrch cymdeithas yn y dyfodol, y bydd ein system addysg yn addas ar gyfer pwrpas y dyfodol.”

Ychwanegodd Sophie Howe:

“Caf fy nghalonogi gyda’r modd y mae rhai darparwyr addysg eisoes yn darparu cymwysterau newydd sy’n adlewyrchu’r symudiad o ran cynnyrch a gwasanaethau newydd mewn cymdeithas sy’n fwyfwy wedi’i digido; er enghraifft, mae Coleg Gwent yn cynnig Cyrsiau Busnes Dronau i bobl sy’n gweithio yn y gwasanaethau brys. Mae Ysgol Treganna wedi creu dull gwirioneddol greadigol o ddysgu drwy gyfrwng y cwricwlwm newydd. Mae’u prosiect Argyfwng Diwedd y Byd yn tynnu ar feddwl beirniadol, cynllunio, mathemateg a rhifedd, gan ddefnyddio tasg yn seiliedig ar senario, a defnyddio’u gwybodaeth yn ymarferol.

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn mynnu fod y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yn adnabod tueddiadau’r dyfodol ac yn cynllunio a pharatoi nawr ar gyfer y dyfodol. Does dim byd sy’n bwysicach na sicrhau fod ein system addysg yn paratoi pobl ifanc yn y modd gorau posib i ddatblygu’r sgiliau y bydd y galw mwyaf amdanynt yn ein heconomi a chymdeithas fydd yn newid mor gyflym – sgiliau fel gwytnwch, doethineb emosiynol, a chydweithio.

“Yn ogystal â’r ffaith fod y sgiliau hyn yn hanfodol ar gyfer swyddi’r dyfodol, maen nhw hefyd yn bwysig o ran hybu llesiant pobl ifanc a mynd i’r afael â rhai o heriau mawr y dyfodol fel taclo tlodi ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”

Lansir y papur llawn ar 21 Hydref yng Nghynhadledd Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol yng Nghaerdydd

[1] Wales 4.0 – Delivering Economic Transformation for a Better Future of Work, Review of Digital Innovation for the Economy and the Future of Work, Llywodraeth Cymru.

“Mae’r adroddiad hwn yn gyfraniad defnyddiol iawn i’r ddadl am sut y gellir gwneud y gorau o effaith yr agenda ddiwygio addysg yng Nghymru, ‘Ein Cenhadaeth Genedlaethol’. Mae’n datgelu rhai o’r cyfleoedd a’r peryglon ac yn gwahodd meddwl o’r newydd am bosibiliadau. Bydd ein gallu i addasu ac i gwrdd â’n huchelgais yn hanfodol, ac mae mewnwelediadau fel adroddiad ‘Addas i’r Dyfodol’ yn ein helpu i herio ein harferion blaenorol a phresennol wrth i ni chwilio am y gorau ar gyfer pob person ifanc. Dyma ddogfen sy’n procio’r meddwl…”
| Mick Waters, Cadeirydd panel arbenigol i ail-greu addysg
“Rydym ni’n croesawu’r adroddiad hwn ac yn gobeithio y bydd yn annog trafodaeth bellach am gyfeiriad addysg a chymwysterau i’r dyfodol yng Nghymru.
“Mae cwricwlwm newydd Cymru’n rhoi cyfle i ni edrych o’r newydd ar sut y gall y system addysg a chymwysterau wasanaethu anghenion pobl 16 oed orau i’r dyfodol.
“Un o’r cwestiynau pwysig a ofynnir gan yr adroddiad yw a ddylid parhau i gael cymwysterau’n 16 oed yn y dyfodol.
“Er cydnabod mai cwestiwn y dylai Llywodraeth Cymru benderfynu arno yn y pen draw yw hwn, rydym ni o’r farn fod achos cryf yn aros i weld pobl 16 oed yn parhau i sefyll am gymwysterau sy’n helpu i’w paratoi a’u hysbrydoli ar gyfer bywyd, addysg a gwaith.
“Mae un ar bymtheg yn garreg filltir bwysig i bobl ifanc, wrth iddyn nhw adael addysg orfodol a dilyn llwybrau gwahanol i astudio pellach, hyfforddiant a gwaith. Mae cymwysterau’n eu helpu i benderfynu ar ba lwybr i’w ddilyn. Maen nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth allweddol i golegau, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion ynghylch y bobl sy’n ymgeisio.
“Fel y dengys yr adroddiad, bydd yn rhaid i gymwysterau newid os ydyn nhw’n mynd i gyflawni uchelgais y cwricwlwm newydd a chwrdd ag anghenion esblygol dysgwyr a chymdeithas.
“Ym mis Tachwedd, byddwn ni’n lansio ymgynghoriad mawr i gasglu cynifer â phosib o farnau amrywiol ar y genhedlaeth nesaf o gymwysterau i Gymru. Byddwn ni’n edrych ar sut y gellid cynllunio ac asesu cymwysterau’n wahanol yn y dyfodol, a gofyn a ddylen ni gadw enw TGAU. Rydym ni eisiau sicrhau ein bod ni’n cael y cymwysterau cywir fydd yn helpu pob dysgwr i ddatblygu, waeth beth fo’r lefel y maen nhw’n gweithio arni.
“Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos, ac rydym ni’n annog unrhyw un sydd â buddiannau dysgwyr yn ganolog iddynt i ddweud eu dweud, er mwyn i ni allu cynllunio’n well ar gyfer eu dyfodol.”

| Philip Blaker, Prif Weithredwr, Cymwysterau Cymru
“Mae’r papur yn cynnig trosolwg defnyddiol o’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu Cymru a’i system addysg. Bydd nifer o argymhellion canolog y papur yn atseinio’n gryf gyda llunwyr polisi fel bod yn allweddol i weithredu’r cwricwlwm a threfniadau asesu newydd yn llwyddiannus. Bydd angen ffyrdd newydd o weithio, mwy o gefnogaeth broffesiynol a chyfleoedd strwythuredig i gydweithio, cyllido cywir a chydnabyddiaeth na fydd newid i’r graddau hyn yn digwydd dros nos ar y system addysg rydym ni wedi ymrwymo i’w datblygu yng Nghymru.
“Ar ôl datganoli, mae system addysg Cymru wedi profi cynnwrf a newidiadau parhaus bron, ac mae wedi byw drwy sawl gwawr ffug. Daeth yr awr i wireddu ein gweledigaeth newydd dros addysg yng Nghymru, yn seiliedig ar bedwar pwrpas y cwricwlwm,”

| Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg, Yr Athrofa; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:
“Rydyn ni’n croesawu’r adroddiad hwn oddi wrth Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol gan ei fod yn codi proffil newidiadau mewn addysg yng Nghymru, a chychwyn sgwrs am yr hyn sydd ei angen ar y sector i wireddu dyheadau Cwricwlwm 2022.

"Mae addysg yn rhan ganolog o lesiant cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Bydd yn galonogol i’n haelodau i weld bod yr adroddiad hwn yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r sector addysg. Mae’n amlwg bod angen i fwy o arian ac adnoddau fod ar gael i sicrhau bod yr egwyddorion sydd wrth wraidd y Cwricwlwm yn cael eu cyflawni. | David Evans, Ysgrifennydd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru