Yn ystod yr amser a gymerodd hi i mi ysgrifennu’r blog yma i ganlyn digwyddiad dydd Mawrth, bydd y GIG wedi delio â dros 3 miliwn o gleifion.

Gwyddom fod y galwadau ar ein gwasanaeth iechyd yn anghynaladwy. Ac os yw’r systemau’n anghynaladwy yn 2019, beth fydd oblygiadau hyn i iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol?

Erbyn 2025, amcangyfrifir y gallai miliwn o bobl yn y DU fod yn byw gyda dementia. Erbyn 2050, gallai’r ffigwr fod dros 2 filiwn. O fewn y ddegawd nesaf, bydd 2.8 miliwn o bobl dros 65 fydd angen cae eu nyrsio a derbyn gofal cymdeithasol, na fyddan nhw’n gallu ymdopi ar eu pen eu hunain.

Llun sgrîn Trydar Clair Powell

Beth yw ystyr hyn o ran y bobl sy’n cael eu cymryd i’r ysbyty a’r bobl ar y rheng flaen?

Roedd ‘Cefnogi pobl yn eu cymunedau: Lleihau derbyniadau diangen i’r ysbyty’ a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 5 Chwefror gan y Gyfnewidfa Arfer Dda a Swyddfa Archwilio Cymru, yn darparu cyfle i dynnu sylw at enghreifftiau arloesol ble mae gwasanethau cymdeithasol yn helpu i atal derbyniadau diangen i’r ysbyty.

Mae deddfwriaeth fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, yn cynnig fframwaith ar gyfer gwella llesiant; ar gyfer yr unigolyn ac ar gyfer ein cymunedau’n fwy cyffredinol.

Wrth lansio’r digwyddiad, gwnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, bethau’n glir: “mae cynnig triniaeth heb gynnig dulliau atal yn anghynaladwy, ac nid oes modd cwrdd ag anghenion heddiw yn y diffeithwch.”

Pwysleisiodd y byddai ailgynllunio’r gwasanaeth yn digwydd yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan bwysleisio pwysigrwydd rhoi amser i staff fyfyrio ac ystyried sut y mae gwasanaethau’n cyflawni’r nod (neu ddim).

Tynnodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe, sylw hefyd at arwyddocâd y penderfynwyr iechyd ehangach; er gwaetha’r ffaith mai iechyd yw’r maes sy’n derbyn y mwyaf o gyllido’n gyson, dywedir mai dim ond 15-20% o lesiant unigolyn sy’n cael ei effeithio’n uniongyrchol gan wasanaethau’r GIG. <ae ein llesiant yn ddibynnol ar liaws o faterion ehangach: o’r lle sy’n gartref i ni, yr awyr a anadlwn, pa mor hawdd yw hi i ni gael mynediad i leoedd gwyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus, a’n perthynas gymdeithasol ag eraill a’n cysylltiadau.

A dyna ble bydd y diffiniad statudol o atal, fel y cytunwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd, yn hanfodol o ran sut rydym ni’n mynd ati i ddiwygio drwy gyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’i bum dull o weithio.

Llun sgrîn Trydar Beth Smith and Rachel Powell

Diffiniad Llywodraeth Cymru o atal yw: ‘gweithio mewn partneriaeth i gyd-gynhyrchu’r deilliannau gorau posib, gan ddefnyddio’r cryfderau a’r asedau sydd gan bobl a lleoedd i’w cyfrannu.’

Dyna pam fod y digwyddiadau hyn mor werthfawr, oherwydd y pwysigrwydd a roddant i weithio mewn partneriaeth. Roedd y panel yn cynnwys:

  • Anna Sussex, Rheolwr Rhaglen Genedlaethol Iechyd Gyhoeddus i Fynychwyr Mynych i Ofal heb ei Drefnu
  • Alison Kibblewhite, Rheolwr Ardal a Phennaeth Gweithrediadau ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Paula Kennedy, Prif Weithredwr Melin Homes a
  • Ditectif Uwch-arolygydd Jason Davies, o Heddlu De Cymru.

Roedd amrywiaeth y mewnwelediadau a gynigiwyd gan y panel yn tanlinellu pa mor bwysig yw dod â’r golygon gwahanol hyn ynghyd. O ystyried fod y gwasanaethau tân ac achub yn mynd i 75,000 o gartrefi bob blwyddyn, esboniodd Alison sut y mae hyn yn rhoi cyfle gwych i gefnogi iechyd a llesiant pobl a gwneud eu cartrefi’n lle diogel.

Crynhowyd hyn yn dwt gan Paula:

“Os ydych chi eisiau mynd yn gyflym, ewch ar eich pen eich hun; os ydych chi eisiau mynd ymhellach, ewch gyda’ch gilydd.”

Rhywbeth yr oedd pob un o aelodau’r panel yn ei ofyn oedd i ba raddau rydym ni wir yn cynllunio gwasanaethau o gwmpas anghenion y claf, neu mewn termau symlach: “beth fyddai Mrs Jones eisiau?” Daeth yn hollol amlwg nad oes gan gleifion ddim ots o ble daw eu gwasanaethau.

Neges amlwg i mi oedd honno gan Anna a’i phrofiad ar ôl gweithio mewn Adrannau Brys yng Nghymru. Mae Anna’n gyfrifol am weithredu’r Gwasanaeth Mynychwr Cyson C&V llwyddiannus ac arobryn. Heriodd hithau’r cynadleddwyr i holi o ddifri faint ydym ni’n deall anghenion claf?

Fideo gan Anna:

Atgyfnerthwyd pwysigrwydd tai fel penderfynwr allweddol i iechyd gan Paula o Melin Homes, gan bwysleisio fod pobl eisiau cartref diogel, cynnes, gyda lle i blant ac wyrion chwarae ynddo. Mae’r Prosiect Iach yn y Cartref yn bartneriaeth rhwng Melin Homes, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Care & Repair Sir Fynwy a Thorfaen. Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan geisio lleihau tlodi tanwydd.

Dysgwch ragor gan gydlynydd y prosiect, Joanne, yma: Fideo

Rhoddodd y digwyddiad gyfle i arddangos sawl enghraifft ragorol arall o waith sy’n treiddio i graidd yr hyn y mae cleifion ei angen a’i eisiau. Enghreifftiau fel:

  • Prosiect Llwybrau Gofal; gwasanaeth arbenigol i bobl â phroblemau iechyd meddwl sydd eisiau cael neu gadw mynediad i gyflogaeth, cael mynediad i addysg a chyfleoedd galwedigaethol.
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a’u Gwasanaeth Ymateb i Gwymp. Dysgwch ragor gan yr Arweinydd Tîm Clinigol a’r Parafeddyg, James Gough:
    Fideo gan James
  • Ffrind I Mi, dull amlasiantaethol o ymladd unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ar draws cymunedau. Mae’r fenter hon wedi arwain at fudiad cymdeithasol cydweithredol ar draws ardal ddaearyddol ABUHB. Dysgwch ragor gan Tanya Strange MBE a Claire Jordan: Fideo gan Tanya a Claire
  • Community Care Collaborative – Cwmni Diddordeb Cymunedol sy’n gweithio’n gydweithredol gydag unigolion, asiantaethau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol a chleifion i ddarparu model annhraddodiadol o ofal sylfaenol. Yn ddiweddar, fe wnaethon nhw ennill y cytundeb i redeg dwy feddygfa yn Wrecsam, gydag 20,000 o boblogaeth fwyaf bregus Wrecsam.

Roedd yr ystafell yn llawn o bobl oedd yn holi sut allen nhw ‘addasu nid mabwysiadu’ pob un o’r syniadau, er mwyn gallu’u cymhwyso i’w gwasanaethau nhw. Roedd egni go iawn ac ymdeimlad fod yr ystafell yn llawn o’r hyn y mae Sophie Howe yn ei alw’n ‘hyrwyddwyr rhwystredig’ – y bobl hynny sy’n gweld fod yna ffyrdd gwell o wneud pethau, ond sy’n aml yn cael eu mygu gan system nad yw’n eu galluogi i weithio’n well. Faint o’r syniadau blaengar hyn sy’n gweithio er gwaethaf ein systemau, nid o ganlyniad iddyn nhw?

Daeth pawb o’r digwyddiad gyda rhestr newydd o bobl i gysylltu â nhw am gefnogaeth, a chysylltiadau wedi’u gwneud, a chaniatâd gan yr Archwilydd Cyffredinol i Gymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i herio’r status quo; i gyflawni’r fath o wasanaethau cyhoeddus sy’n rhoi hawl pobl i lesiant yn ganolog i bopeth y maen nhw’n ei wneud.

Os oes diddordeb gennych chi mewn mynychu digwyddiad yn y dyfodol, mae’r ail ddigwyddiad yn cael ei gynnal yn        dyma’r compère extraordinaire Ena Lloyd ei hun i ddweud wrthych pam yn union y dylech chi fynychu:

Fideo o Ena’n hybu’r digwyddiadau hyn: