Rhaid i Lywodraeth Cymru ffocysu ar gynllunio ar gyfer yr hirdymor, gan osod y safonau ar gyfer ennyn ymgyfraniad pobl Cymru yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt os yr ydynt mewn difrif yn awyddus i wella bywydau, medd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dywed Ms Howe bod angen newidiadau o bwys yn y modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu datblygu a’u cyflawni wrth iddi gyflwyno’r heriau mawr ar gyfer datblygu gwell polisïau i adeiladu’r Gymru yr ydym i gyd eisiau ei gweld.

Mewn llythyr at y Prif Weinidog yn dilyn datganiad yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, mae’n amlygu’r meysydd o fewn ei faniffesto lle gellir a lle dylid defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wneud gwahaniaeth arwyddocaol, a heriodd y Llywodraeth i greu’r naws priodol ar gyfer gweddill y sector cyhoeddus drwy ddangos sut y byddant yn cwrdd â gofynion y Ddeddf.

Y rhain yw:

  • Blynyddoedd Cynnar – mae angen ymagwedd gyd-gysylltiedig tuag at raglenni sy’n bodoli eisoes, ac addewid newydd i gyflwyno 30 awr ychwanegol o ofal
  • Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol a Bargeinion Dinas-ranbarthau
  • System Drafnidiaeth Integredig yn cynnwys y System Fetro a chynigion ar gyfer ffordd liniaru’r M4
  • Adolygiad o’r cwricwlwm
  • Gofal iechyd ataliol
  • Y newid yn yr hinsawdd
  • Caffael

Mae Ms Howe hefyd wedi ysgrifennu at Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i gael gwybodaeth am y modd y mae’r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei hystyrid wrth i Gynllun yr M4 symud yn ei flaen. Gyda barn gref a thystiolaeth dros ac yn erbyn y cynigion nid yw’r Comisiynydd ar hyn o bryd yn gwneud safiad dros nac yn erbyn y Cynllun ei hunan, ond mae’n dymuno gweld sut mae deddfwriaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei chymhwyso at y cynigion hyn.

Disgwylir Rhaglen Lywodraethu newydd yn yr Hydref. Yn ei llythyr at Mr Jones, mae Ms Howe yn amlinellu nifer o faterion allweddol a dulliau hanfodol o ddefnyddio Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer datblygu’r rhaglenni a’r polisïau o’i mewn – yn seiliedig ar yr egwyddorion o fewn y Ddeddf sy’n ymwneud â chynllunio ar gyfer llesiant, gan atal pethau rhag digwydd neu waethygu, uno pethau, cydweithio ac yn bwysicach na dim, ennyn ymgyfraniad y bobl a fydd yn cael eu heffeithio.

Meddai: “Yn dilyn Brexit, disgrifiodd y Prif Weinidog y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel galwad i’r gad – byddaf yn darparu her gynorthwyol i sicrhau y bydd y nodau llesiant a’r dulliau o weithio a nodir yn y Ddeddf hon, sy’n torri tir newydd, yn cael eu defnyddio i drawsnewid addewidion yn rhaglenni a pholisïau cyd-gysylltiedig, traws-adrannol sy’n dwyn gwelliant gwirioneddol i fywyd pobl.

“Mae gwneud hyn mewn dull priodol yn golygu mwy nag ymgysylltu â’r bobl arferol. Mae ymgyfraniad gwirioneddol bob amser yn heriol ond credaf fod y digwyddiadau diweddar yn gwneud achos cryf dros edrych o’r newydd ar y modd yr ydym yn ennyn ymgyfraniad ac ymgysylltiad pobl a sut y gall profiadau eu bywydau bob dydd drwytho’r ffordd yr ydym yn dylunio a chyflwyno polisi.

“Bydd yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ennyn ymgyfraniad y rhai yr effeithir arnynt fwyaf, a’u gosod wrth galon y broses gwneud penderfyniadau. Datgelodd IPOS MORI mai dim ond 13% o’r cyhoedd oedd yn teimlo bod budd iddynt hwy yn y gwasanaethau a dderbyniwyd ganddynt. Mae hyn yn portreadu cyhoedd y caiff penderfyniadau eu gwneud ar eu cyyfer a’u ‘gwneud iddynt’.

“Yn fy wythnosau cyntaf fel Comisiynydd rwyf wedi bod yn ymweld â chyrff cyhoeddus a chwrdd â phobl ar draws Cymru ac maent hwy wedi tynnu sylw at yr angen i ennyn gwell ymgyfraniad gan bobl fel thema allweddol ar gyfer gwella cyflwyniad gwasanaethau a chanlyniadau.”

“Mae yna gyfle euraidd i Lywodraeth Cymru gyflawni eu hymrwymiad i lesiant cenedlaethau’r dyfodol drwy ddangos arweinyddiaeth gref drwy’r Rhaglen Lywodraethu, gan roi enghraifft i gyrff cyhoeddus eraill, nid am ei bod yn ofynnol iddynt wneud hynny, ond oherwydd y bydd yn arwain at well canlyniadau yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Gellir dod o hyd i enghreifftiau o heriau allweddol a meysydd polisi lle gall y Rhaglen Lywodraethu ddangos gweithrediad y Ddeddf yn Atodiad 1

NODIADAU I OLYGYDDION

Llythyr a anfonwyd gan Sophie Howe at y Prif Weinidog Carwyn Jones + Atodiad  

Llythyr a anfonwyd gan Sophie Howe at Ken Skates AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith)

Bydd cyflwyno polisÏau a rhaglenni a bennwyd yn y Rhaglen Lywodraethu’n cael eu cwmpasu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd yn peri i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am yr hirdymor, weithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu ymagwedd fwy cyd-gysylltiedig.

I wneud yn siŵr ein bod yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn gosod yn eu lle saith nod llesiant:

  • Cymru ffyniannus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynol
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel byd-eang