“Rydym wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd yn ddiweddar yng Nghymru ond rydym ni’n methu â gweithredu ar raddfa na chyflymder angenrheidiol i gwrdd â’n targedau allyriadau carbon. Mae effaith newid hinsawdd yn amlygu’i hun yng Nghymru’n barod, gyda 23% o’n harfordir yn cael ei erydu oherwydd cynnydd yn lefel y môr, yn ogystal â’r perygl o golli 1 o bob 14 o’n rhywogaethau bywyd gwyllt. Ac eto, ein cenedlaethau iau sy’n arwain y ddadl ac yn galw ein llywodraethau i gyfrif am eu diffyg gweithredu i ymladd yn erbyn newid hinsawdd,” meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru.

“Rwy’n cefnogi’r gweithredu y mae ieuenctid ledled Cymru a’r byd yn ei wneud i gymryd rhan yn y Streic Hinsawdd Fyd-eang, a’u hymrwymiad i gadw’r argyfwng hinsawdd yn sownd ar frig yr agenda rhyngwladol. Dyma’r streic ieuenctid gyntaf ble mae pobl ifanc wedi gofyn am gefnogaeth oedolion ar bwnc sy’n effeithio pob cenhedlaeth, ac mae’n braf gweld fod undebau llafur, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru, ochr yn ochr â’m swyddfa innau’n datgan eu cefnogaeth ac yn ailgadarnhau’u hymrwymiadau i wneud y newidiadau angenrheidiol.

Er bod Cynllun Carbon Isel y Llywodraeth, a phenderfyniad y Prif Weinidog ynghylch Ffordd Lliniaru’r M4, wedi cael eu croesawu, mae’r Comisiynydd wedi mynegi gofid am y lefel o weithredu ymarferol a buddsoddi sy’n digwydd ledled Llywodraeth i daclo newid hinsawdd. Mae hi wedi ysgrifennu at bob Gweinidog gan ofyn iddyn nhw amlinellu sut y maen nhw’n mapio allyriadau carbon yn eu hadrannau, a bydd yn cwrdd â phob aelod o’r Cabinet yn ystod y mis nesaf i ganlyn hynny.

“Yn ddiweddar, fe wnes i gyhoeddi cynllun deg pwynt oedd yn cynnwys awgrymiadau ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiadau yn y gyllideb nesaf (2020-2021) i fuddsoddi yn ein trafnidiaeth, cartrefi ac adeiladau, ynni adnewyddadwy a thir, a chynyddu llythrennedd carbon, a’m galwad ar i gyrff cyhoeddus yng Nghymru i roi’r gorau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil. Mae angen i’r Llywodraeth wneud ymrwymiad go iawn i hyn bellach, ac rwyf eisiau gweld sut mae hyn yn cael ei roi ar waith; byddaf yn monitro’n ofalus sut yr adlewyrchir hin yn y broses gyllidebu sydd ar fin digwydd.

“Does gennym ni mo’r amser i daclo’r mater brys hwn sy’n effeithio ar bob cenhedlaeth, felly galwaf ar gyrff cyhoeddus i archwilio pob cyfle er mwyn ymroi i ymateb ar fyrder i newid hinsawdd, gan ddechrau gyda mapio’u hallyriadau, adeiladu i safonau dim carbon, buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, a chydnabod pwysigrwydd gwarchod a gwella natur fel rhan o’r ymateb i newid hinsawdd a stopio difodiant rhywogaethau.”