● Mae tai carbon niwtral a swyddi gwyrdd i bobl sy’n ddiwaith yn sgil y pandemig yn hanfodol ar gyfer ailosod yr economi ac ‘adeiladu nôl yn well’.
● Mae Sophie Howe wedi amlinellu’r pum blaenoriaeth gwariant sydd angen i Gymru eu hystyried yn awr – ac yn galw am becyn ysgogi gwyrdd ar frys i helpu adferiad hirdymor y wlad.
● Mae angen i gyllideb atodol y llywodraeth ar ddydd Mercher nodi buddsoddiad sy’n blaenoriaethu gwell ansawdd bywyd yn y dyfodol.

Dylai swyddi gwyrdd i’r diwaith a phecyn gwerth miliynau o bunnoedd i ddatgarboneiddio tai fod yn ganolog i’r ffordd y mae Cymru’n cael ei hail-lunio yn dilyn y pandemig coronafirws, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Dywed Sophie Howe fod gennym “gyfle sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth” i ailosod economi Cymru, ac mae’n galw amsyniadau gweledigaethol a buddsoddiad trawsnewidiol yng nghynllun adfer y genedl. 

Mae’r comisiynydd wedi cyhoeddi cyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru wrth iddynt gyhoeddi eu Cyllideb Atodol gyntaf, sy’n rhoi manylion am y modd y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu yn ystod ac ar ôl yr argyfwng. 

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi cynyddu o fwy na 10% ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol – dyrennir £ 2.4bn i gynorthwyo Cymru gyda’i hymdrechion COVID-19. 

Dywedodd Ms Howe: “Mae’r pandemig wedi dod â heriau anhygoel, ond mae’r modd yr ydym yn ei oresgyn yn rhoi i ni ‘gyfle sy’n digwydd unwaith mewn cenhedlaeth. 

“Rhaid i’r gyllideb nodi newid cyfeiriad i ailosod ein heconomi a datrys methiannau’r gorffennol gyda meddwl beiddgar, cydweithredol, cynhwysol, a dewrder gwleidyddol. 

“Mae angen iddi fynd i’r afael ag iechyd, yr economi ac argyfyngau parhaus yr hinsawdd a natur er mwyn dyfodol hirdymor Cymru. Mae arnom angen diffiniad newydd o ffyniant, yn seiliedig ar lesiant, a ffordd decach, wyrddach o fyw”.  

Mewn papur a ysgrifennwyd gandddi dywed y comisiynydd yn ei rôl fel amddiffynnydd cenedlaethau’r dyfodol rhag gweithredoedd gwleidyddol heddiw, bod yn rhaid i weinidogion yn awr ddangos dewrder gwleidyddol gan ganolbwyntio mwy ar ansawdd bywyd na Chynnyrch Domestig Gros, wrth i’r wlad gychwyn ar y broses o ailadeiladu tra bo cyfyngiadau yn parhau yn eu lle i atal lledaeniad COVID-19. 

Mae mwy o fuddsoddiad yn yr economi carbon isel yn hanfodol, ac yn y tymor byr, mae Ms Howe yn awgrymu y gallai’r rhai sydd wedi colli swyddi ac incwm yn ystod y pandemig gael eu hailsgilio a’u cyflogi yn yr economi gwyrdd. 

Ymhlith ei hargymhellion mae’n nodi pecyn ysgogi gwerth miliynau o bunnoedd i gynorthwyo datgarboneiddio stoc dai Cymru – gan ariannu tai fforddiadwy carbon isel newydd a lansio rhaglen ôl-osod genedlaethol i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi presennol. 

Byddai’r manteision i iechyd pobl, yr amgylchedd, y swyddi sy’n cael eu creu ac – yn hollbwysig – stoc dai Cymru, meddai Ms Howe, yn gorbwyso’r gost amcangyfrifedig o fwy na £ 500m y flwyddyn. 

Wrth i filoedd barhau i weithio gartref – gan leihau’r pwysau ar rwydweithiau trafnidiaeth a lleihau allyriadau carbon – mae’r comisiynydd eisiau buddsoddiad ar gyfer gwella cysylltedd digidol. 

Cymeradwyodd Ms Howe ymrwymiad £ 25m Llywodraeth Cymru i ariannu gwelliannau trafnidiaeth i gerddwyr a beicwyr gan awdurdodau lleol ledled Cymru, a dywedodd fod yn rhaid i hyn fod yn rhan o gynllun hirdymor.  

Fe ddaw wrth i symudiadau i bedestreiddio canol Bryste gael eu datgelu fel rhan o’u hymateb i argyfwng COVID-19. Mae’r ddinas hefyd yn ennyn diddordeb preswylwyr wrth gynllunio ffyrdd newydd o ddefnyddio lleoedd sy’n bodoli eisoes – gyda syniadau sy’n dod i’r amlwg yn cynnwys pedestreiddio ffyrdd cerbydau deuol cyfan. 

Mewn mannau eraill, mae Milan – un o’r dinasoedd â’r mwyaf o dagfeydd yn Ewrop – yn trawsnewid 35km o strydoedd yn ‘barthau’r dyfodol’, lle gall pobl gerdded a beicio’n ddiogel.  

Dylid symud adnoddau hefyd fel y gellir adfer cynefinoedd naturiol Cymru, gyda choridorau gwyrdd yn cysylltu’r wlad a mwy o fuddsoddi mewn plannu’r goedwig genedlaethol newydd.  

Bydd meddwl yn y modd hwn, medd y comisiynydd, nid yn unig yn helpu bywyd gwyllt, ond yn atgyfnerthu amddiffynfeydd llifogydd a gallu’r genedl i wynebu heriau’r newid yn yr hinsawdd a chreu swyddi. 

Mae Ms Howe eisiau i’r Llywodraeth, yn eu hymateb i’r argyfwng, ddefnyddio deddfwriaeth y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ynghyd â’i Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol newydd a’i chynllun deg pwynt ar gyfer ariannu’r argyfwng hinsawdd 

Mae’r Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda chyrff cyhoeddus i gyflawni 20% o orchudd canopi coed ym mhob tref a dinas yng Nghymru erbyn 2030. 

Dywedodd Ms Howe: Roedd ein heconomi cyn COVID-19 yn blaenoriaethu twf economaidd gan orfodi llawer o bobl i dlodi, a arweiniodd yn ei dro at boblogaeth afiach sy’n arbennig o agored i argyfwng fel pandemig.  

Mae’n hollbwysig bod ein cyllideb yn mynd i’r afael â phethau na fedrwn fforddio eu hanwybyddu – megis yr argyfwng iechyd presennol, yr argyfwng economaidd a sbardunwyd gan y pandemig ac argyfwng parhaus yr hinsawdd a natur. 

Rwy’n awyddus i weithio gyda phartneriaid a sefydliadau i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu ymateb i’r argyfwng a fydd yn caniatáu i Gymru ‘adeiladu nôl yn well’. 

 

Pum argymhelliad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol… 

  1. Datblygu pecyn ysgogi economaidd sy’n arwain at greu swyddi ac sy’n cynorthwyo datgarboneiddio cartrefi, drwy adeiladu tai newydd carbon isel fforddiadwy a buddsoddi mewn rhaglen genedlaethol i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol.
  2. Buddsoddi mewn gwell dulliau o gysylltu a symud pobl, drwy wella cysylltedd digidol, teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  3. Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i gynorthwyo’r trawsnewid i well dyfodol, gan greu swyddi newydd gwyrddach. 
  4. Buddsoddi mewn natur a rhoi blaenoriaeth i ariannu a chymorth graddfa fawr i adferiad cynefinoedd a bywyd gwyllt, creu a chysylltedd ledled Gymru – yn cynnwys ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd naturiol, gweithredu’r goedwig genedlaethol newydd a sicrhau bod rheoli defnydd tir ac amaeth yn cynorthwyo sicrhad cadwyni bwyd lleol a dosbarthu. 
  5. Buddsoddi yn niwydiannau a thechnolegau’r dyfodol, a chynorthwyo busnesau, a fydd yn helpu Cymru i arwain y chwyldro carbon isel a chloi cyfoeth a swyddi mewn ardaloedd lleol gyda buddsoddiad yn yr economi sylfaenol. 

 

I ddarllen y Datganiad Llawn, gweler ein tudalen adnoddau.

Ymholiadau’r cyfryngau at: Claire Rees ar clairefrees@gmail.com neu 07815 291140