Wrth i mi ysgrifennu, mae’r Arlywydd Trump yn debygol o dynnu Unol Daleithiau America allan o’r cytundeb hinsawdd byd-eang. Mae gwadu’r newid yn yr hinsawdd yn ddadl afaelgar ac mae anwybyddu barn arbenigwyr a gwyddonwyr sydd wedi astudio’r pwnc hwn am flynyddoedd lawer yn beth digon cyffredin.

Mae’r byd ‘ôl-wirionedd’ hyn yn wenwynig a brawychus ac yn hwyluso’r awydd i hyrwyddo trychinebau. Mae ein hymateb dynol i’r fath sefyllfaoedd difrifol a heriol yn emosiynol a chaeëdig. Mae ofn yn peri i ni wrthod meddwl am y peth a rhoi ein pennau yn y tywod. Yn ein calonnau, gwyddom y bydd y canlyniadau trychinebus nid yn unig yn ansefydlogi llawer o ardaloedd y byd, ond hefyd yn distrywio cartrefi a bywoliaethau miliynau o bobl.  Mae’r dyfodol yn rhy erchyll i ni hyd yn oed feddwl amdano, iawn? Mae allan o’n rheolaeth. Does dim byd fedrwn ni ei wneud.

Nid yw realiti, efallai, mor llwm â hynny. Rydym mwy neu lai wedi cyrraedd y pwynt lle mae gennym y gallu technegol a’r sgiliau i ddatrys ein materion hinsawdd mwyaf dybryd. Felly os ydyw pwysau amser yn cynyddu ar ras – a’r sgiliau dylunio gennym i ddatrys y broblem i raddau helaeth – beth yn union sy’n ein hatal rhag gwneud hyn?

Mae arnom angen yr ateb i gwestiwn hollbwysig ein cenhedlaeth yn ddiymdroi.

I mi mae’n amlwg mai’r rhwystrau mwyaf yw’r rhai diwylliannol nid y rhai technegol. Tra’n bod yn dal i ddweud wrthym ni ein hunain am y byd dystopaidd hwn na fedrwn ei reoli, rydym yn tagu gobaith ar ei enedigaeth. Mae angen i ni gydnabod y rôl hollbwysig a chwaraeir gan ein gweithgareddau diwylliannol wrth ganiatáu i ni ddeall a hefyd ail-ddychmygu’n byd. Yn y Roeg hynafol, roedd y ddrama yn rhoi ‘man ar gyfer gweld’ i’r dinasyddion. Roedd yna foment gritigol o ‘weld’ mewn trasiedïau a chomedïau. Y gwahaniaeth oedd un yn ymwneud ag amseru. Yn y drasiedi, mae’r foment o ‘weld’ yn dod yn rhy hwyr. Yn y gomedi, caiff yr amser ei ddefnyddio ar gyfer ddysgu: rydym yn gweld yr hyn na fedr eraill ei weld. Caiff trychineb ei osgoi a chodir cywilydd ar y rhai sy’n cuddio’r gwir.

Mae’r celfyddydau’n dal i chwarae’r rôl hyn mewn cymdeithas – yn dal drych i fyny, yn cadw’r gofod ar gyfer trafodaeth a chyfle i feddwl mewn dull newydd. Mae celfyddyd yn dwyn pobl at ei gilydd, yn creu swyddi, yn gwneud ein cymunedau’n llefydd gwych i fyw, gweithio a chwarae ynddynt. Efallai nad yw hyn yn rhywbeth yr ydych yn ymwybodol ohono ond mae’n ganolog i ansawdd ein bywyd a’n llesiant.

Mae traddodiad hir o gelfyddyd sy’n ymgysylltu â’r gymdeithas yn parhau i hau hadau bywiogrwydd ac ynni yng Nghymru bob dydd. Mae ein prosiectau Creu Cymunedau Cyfoes, a Newid Diwylliant yn defnyddio creadigrwydd a dychymyg ledled Cymru i adfywio gofodau sydd wedi eu hanghofio a phobl nad yw llais mwyach yn cael ei glywed. Rydym wedi cael cip o artistiaid yn troi’r hyn a fedrai fod yn drasiedïau yn gomedïau – gan roi i bobl yr amser, y gofod a’r adnoddau sydd arnynt eu hangen i adfywio eu bywydau, eu cymunedau a’r blaned. Drwy fuddsoddi yn ein hartistiaid rydym yn buddsoddi yn ein dyfodol ni i gyd drwy ei gwneud yn bosibl i ni weld byd sy’n seiliedig ar egwyddorion tegwch cymdeithasol, sy’n hybu llesiant yr unigolyn, heb gostio’r byd.