I’n cenhedlaeth ieuengach, tai heb amheuaeth yw un o’r heriau mwyaf anodd a wynebir ganddynt.

Mae gan Gymru lai o dai ôl-2000 na rhannau eraill o’r DU, a gyda chynnydd te bygol o 5% ym mhoblogaeth Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf, bydd y galw a’r pwysau yn cynyddu.

Datguddia’r ymchwil a wnaed gan gomisiwn pontio’r cenedlaethau Willetts ym melin drafod Resolution Foundation bod y rhai sy’n 30 mlwydd oed heddiw ddim ond hanner mor debygol â’u rhieni o fod yn berchen eu cartref eu hunain. Maent bedair gwaith yn fwy tebygol o rentu’n breifat nag a fyddent ddwy genhedlaeth yn ôl – sector â’r record waethaf am ansawdd tai – honna’r adroddiad. Mae’n rhaid i deulu ifanc heddiw gynilo am 19 mlynedd ar gyfartaledd i fedru fforddio blaendal nodweddiadol, o’i gymharu â thair blynedd i’r Niwe hy genhedlaeth flaenorol.

Rydym yn magu cenhedlaeth a fydd yn byw mewn realiti cwbl wahanol i’r un a wyddom yn awr; mwy a mwy o dechnoleg soffistigedig ac awtomeiddio, mwy a mwy o bobl a mwy o bobl sy’n heneiddio, a newid hinsawdd. Os ydyw’r ystadegau’n frawychus yn awr, beth am y dyfodol?

Yr heriau hyn yw’r rheswm pam yr ydym yn ein swyddfa wedi nodi stoc dai a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod fel dau o’r chwe maes polisi blaenoriaethol i ffocysu arnynt yn nhermau darparu cymorth a chyngor, yn ogystal â her adeiladol i gyrff cyhoeddus. Oherwydd byddai methu gwneud hynny yn anwybyddu’n llwyr yr angen i adeiladu polisïau amgenach ar gyfer cenedlaethau’n dyfodol.

I mi, ffocysu ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yw’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith. Mae’n golygu cymryd ymagwedd ataliol, hirdymor tuag at y modd y mae’n gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio yng Nghymru. Mae’n gofyn am gydweithio diffuant, integreiddio ac ymgyfraniad i ddeall realiti bywydau’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y materion hyn. Wedi’r cyfan, yr hyn y mae’n ymwneud ag ef yw’r unigolyn, nid y defnyddiwr gwasanaeth, y cleient, neu’r cwsmer.

Os yr ydym i roi diwedd ar y cylchoedd hyn o gamdriniaeth, iechyd gwael, materion iechyd meddwl a thrawma sy’n pontio’r cenedlaethau a phenderfyniadau gwael ac anghyflogaeth, mae angen i ni sicrhau ein bod wedi ymrwymo i hyn yn yr hirdymor.

Mae ymchwil blaenorol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos y gallai dileu Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod arwain yn y pen draw, er enghraifft, at leihad o dros 55,000 yn y nifer o ddefnyddwyr heroin a chocên,

Mae i hyn oblygiadau pellach i’n system cyfiawnder troseddol, pan ddangosodd astudiaeth flaenorol bod dros 80% o holl weithredoedd troseddol ym Mhrydain i’w priodoli i bobl â phroblemau ymddygiadol yn ystod plentyndod neu lasoed.

Amcangyfrifir y gallai darparu ymyrraeth hwyr gan wasanaethau i blant a phobl ifanc yng Nghymru gostio £16.6 biliwn. Ond wrth gwrs, pan yr ydych yn siarad am atal, mae’n hollbwysig bod atal yn ymwneud nid yn unig â’r blynyddoedd cynnar a phlentyndod. Mae angen yr ymagwedd hon tuag at bob cyfnod mewn bywyd, drwy’r holl system cyfiawnder troseddol, a phob agwedd ar ofal iechyd.

Mae hyn yn ymwneud â ffurfio oedolion y dyfodol a ph’un ai fyddant yn medru gwneud cyfraniad i gymdeithas neu a fyddant yn oedolion y bydd arnynt angen ystod gyfan o adnoddau’r heddlu, gwasanaethau cyhoeddus ac wrth gwrs ein GIG.

Nid materion a chyllidebau gwahanol yw’r rhain, yr un materion yw’r rhain, a dylent, felly, fod yn broblem i bawb.

Mae gweithredu heddiw ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn fuddsoddiad hirdymor mewn Cymru fwy cydnerth, iachach, mwy cyfartal a ffyniannus ar gyfer cenedlaethau’n dyfodol.