< Yn ôl i’r blaenorol

Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi'r uchelgais, caniatâd a rhwymedigaeth gyfreithiol i wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Mae’r Ddeddf yn unigryw i Gymru ac yn denu diddordeb o wledydd ar draws y byd, gan ei bod yn cynnig cyfle gwych i wneud newid hirbarhaol, positif i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Saith Nod Llesiant


I wneud yn siŵr ein bod ni gyd yn gweithio tuag at yr un diben, mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn glir bod rhaid i’r cyrff cyhoeddus a restrwyd weithio tuag at gyflawni pob un o’r nodau, nid dim ond un neu ddau ohonynt yn unig.

  • Cymru lewyrchus

    Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas
  • Cymru gydnerth

    Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)
  • Cymru iachach

    Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol
  • Cymru sy’n fwy cyfartal

    Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)
  • Cymru o gymunedau cydlynus

    Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

    Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

    Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang
“Mae gennym uchelgeisiau mawr o ran diogelu ein hamgylchedd a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru ac rydym yn arwain y ffordd gyda'n Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol” Sophie Howe | Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Yr egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Mae'r Ddeddf yn diffinio Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru fel: "y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant." Nodir pum ffordd o weithio sydd eu hangen er mwyn cyflawni'r saith nod llesiant. Mae'r dull hwn yn rhoi cyfle i feddwl yn arloesol, gan adlewyrchu'r ffordd rydym yn byw ein bywydau a'r hyn a ddisgwyliwn o'n gwasanaethau cyhoeddus.

Pum dull o weithio

Hirdymor

Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a'r angen am ddiogelu'r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd

Atal

Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion

Integreiddio

Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o'r nodau llesiant, ar bob un o'u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff chyoeddus eraill

Cydweithio

Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu'r corff i fodloni ei amcanion llesiant

Cynnwys

Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni'r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny'n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu

Cyrff Cyhoeddus sy’n dod o dan y Ddeddf


Mae 44 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi eu cynnwys o dan y Ddeddf, ac mae’n ofynnol iddynt ddefnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy

  • Amgueddfa Cymru — Museum Wales
  • Awdurdodau Lleol
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cyngor Chwaraeon Cymru
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Llywodraeth Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Felindre
  • Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae’r Ddeddf yn sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae’n ofynnol iddynt asesu cyflwr llesiant yn lleol, gosod nodau a chynhyrchu cynllun a luniwyd i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal leol, gan wneud y mwyaf o’u cyfraniad at y nod llesiant.