#24

Darparu loceri ar gyfer eich gweithwyr

1

Problem

Gall cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol chwarae rhan bwysig mewn gostwng perygl o glefydau’r galon, rhai mathau o ganser, diabetes math 2 a gordewdra. Mae gweithwyr sy’n treulio 2.5 awr yr wythnos yn gwneud rhywbeth corfforol yn adrodd eu bod yn hapusach yn eu gwaith, yn dweud fod eu gallu i weithio’n uwch, ac roedden nhw wedi cymryd llai o ddiwrnodau oddi ar y gwaith oherwydd salwch. Drwy ddefnyddio amser gwaith i wneud ymarfer corff, gall cyflogeion hefyd wella’u cydbwysedd bywyd a gwaith am nad yw amser cadw’n heini’n cael ei wasgu i amser personol / teulu sydd eisoes yn brysur.

2

Newid Syml

Drwy ddarparu loceri ar gyfer eich gweithwyr, mae hyn yn cyfleu neges gadarnhaol i weithwyr eich bod chi’n eu hannog i fod yn heini a bywiog yn ystod y dydd a / neu i deithio’n iach i’r gwaith ac adref yn ôl. Mae cael rhywle i storio dillad ac offer yn eich sefydliad yn dangos eich bod chi’n rhoi gwerth ar ymddygiad o’r fath.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru iachach

Cymru iachach,

You have earned...

Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol