#16

Cynnwys addysg ‘isadeiledd gwyrdd / bioamrywiaeth’ ar gyfer staff ar draws POB adran

1

Problem

Isadeiledd Gwyrdd yw’r ffordd fwyaf syml, hardd ac effeithiol o leddfu heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol lluosog ac mae’n cyd-fynd â’r isadeiledd trefol presennol. Erys diffyg ymwybyddiaeth ar raddfa eang ynghylch pwysigrwydd bioamrywiaeth.

2

Simple Change

Drwy gefnogi pob aelod o staff i gyfranogi a deall y materion hyn, byddwch chi’n helpu i wreiddio gwybodaeth ac ymwybyddiaeth drwy’r holl broses gwneud penderfyniadau ar draws pob lefel a maes gwaith, er mwyn i gynlluniau, polisïau a datblygiadau gyflawni mwy o les cyhoeddus nag a fyddai’n bosib fel arall drwy gyfrwng dulliau  traddodiadol ‘busnes-fel-arfer’

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)