#11

Rheoli ymylon ffyrdd a llecynnau glas cysylltiedig (fel lle o gwmpas adeiladau) ar gyfer blodau gwylltion ac i beillio

1

Problem

Mae dolydd blodau gwylltion, un o’r cynefinoedd prinnaf yn y DU, wedi dirywio 97% ers y 1930au. Mae’r golled hon wedi cyfrannu at ddirywiad difrifol mewn ardaloedd sy’n rhoi cyfoeth o flodau sy’n gynefinoedd hanfodol ar gyfer llawer o rywogaethau o adar a thrychfilod. O ganlyniad i golli’r cynefin pwysig hwn, dirywiodd dros ddwy ran o dair o beillwyr y DU.

2

Newid Symil

Drwy reoli ymylon ffyrdd a llecynnau glas eraill yn well, gallwch adfer ac ymestyn cynefin blodau gwyllt, gan ddarparu cysgod a bwyd i beillwyr a thrychfilod eraill, a gwella’r cyswllt â natur a brofir gan ddefnyddwyr rhwydwaith heolydd Prydain ar yr un pryd.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymru o gymunedau cydlynus,

You have earned...

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da