#47
Archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau rhwng y cenedlaethau
Problem
Mae gweithgareddau rhwng y cenedlaethau’n cysylltu cenedlaethau gwahanol a gallant adeiladu cymunedau bywiog, hybu dinasyddiaeth, rhannu sgiliau a phrofiad, lleihau lefelau trosedd drwy greu dealltwriaeth uwch, creu perthynas gadarnhaol o lefelau uwch o ymddiriedaeth. Gall pob un o’r pethau hyn gyfrannu at ddatblygu cymunedau mwy cydlynus.
Newid Syml
Gall cyrff cyhoeddus helpu drwy greu amodau ble mae’n haws i bobl iau a phobl hŷn ddod at ei gilydd mewn digwyddiadau cymunedol, tyfu a choginio bwyd gyda’i gilydd, cyfnewid sgiliau, canu gyda’i gilydd mewn corau aml-genhedlaeth a llawer mwy. Ceir cyfleoedd penodol i alluogi hyn i ddigwydd drwy adeiladu perthynas gryfach rhwng ysgolion a lleoedd ble bydd pobl hŷn yn byw ac yn cyfarfod.
Resources
More Information about: Archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau rhwng y cenedlaethau
Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt
Cymru o gymunedau cydlynus
You have earned...
Cymru o gymunedau cydlynus
Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da
Cymru sy’n fwy cyfartal
You have earned...
Cymru sy’n fwy cyfartal
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
You have earned...
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang