#79

Ymwneud ar thema yn hytrach na pholisi

1

Problem

Canfu Arolwg Bywyd Cymunedol (2016-17) mai dim ond 27% o oedolion ledled y DU oedd yn cytuno y gallen nhw ddylanwadu’n bersonol ar benderfyniadau, tra bo 58% wedi datgan ei bod hi’n bwysig gallu dylanwadu ar benderfyniadau. Weithiau, mae ein dull o gynnal sgyrsiau’n dieithrio’r cyhoedd, neu’n methu â chael at wraidd yr hyn sydd wir yn bwysig iddynt.

2

Newid Syml

I ddangos ymwneud da, dylech geisio denu’r cyhoedd ar thema neu bwnc mewn ffordd sy’n berthnasol iddyn nhw, yn hytrach nag mewn cyd-destun polisi’n unig.

Ymwneud ar thema yn hytrach na pholisi

Mae rhoi cyfle i bobl ymwneud â phethau sy’n bwysig iddyn nhw ac sy’n effeithio ar eu bywydau beunyddiol, yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y bydd polisïau’n cael eu llunio yn y dyfodol. Bydd Mesur y Mynydd yn cynnal digwyddiadau ‘Rheithgor Dinasyddion’ rheolaidd i roi cyfle i aelodau’r gymuned ymgysylltu ar thema benodol. Maen nhw’n annog cyrff cyhoeddus i wneud yr un peth.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Ymgyfraniad

You have earned...

Ymgyfraniad

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymru sy’n fwy cyfartal,

You have earned...

Cymru sy’n fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymru o gymunedau cydlynus,

You have earned...

Cymru o gymunedau cydlynus

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da