#10

Ystyried cyfleoedd i secondio staff oddi mewn i sefydliadau a rhyngddynt, er mwyn rhannu gwybodaeth a datblygu sgiliau trosglwyddadwy

1

Problem

Yn y dyfodol, bydd pobl yn newid swydd 12 gwaith yn ystod eu bywyd ar gyfartaledd. Mae’n hanfodol ein bod ni oll yn dysgu sgiliau newydd ac yn dod yn fwy parod i addasu ar gyfer y byd o’n blaen sy’n newid

2

Newid Syml

Drwy edrych ar secondiadau rhwng sefydliadau, nid yn unig rydych chi’n cyflwyno sgiliau trosglwyddadwy ychwanegol i’ch gweithle, ond rydych chi hefyd yn uwch-sgilio eich cyflogeion ar gyfer llwybrau’u gyrfaoedd eu hunain yn y dyfodol.

Astudiaeth achos

Y Gallu i Greu yw’r prosiect partneriaeth mwyaf i ni fel sefydliad ei gynnal. Dyma rai o’r prif weithredwyr yr ydym ni wedi partneru gyda nhw i esbonio manteision cael safiad ar y cyd rhwng sefydliadau.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru lewyrchus

Cymru lewyrchus,

You have earned...

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang