#68

Cyfrifo a deall ôl troed carbon eich sefydliad

1

Problem

Mae’n debygol y bydd targed Llywodraeth Cymru o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 40% erbyn 2020 yng Nghymru yn cael ei golli. Os ydym ni’n mynd i gwrdd ag amodau Cytundeb Paris, o gadw’r cynnydd yn nhymheredd y byd islaw 2 radd, rhaid gweithredu ar fyrder ym maes lleihau carbon. Dylai pob corff cyhoeddus fod yn cyfrifo’u hallyriadau carbon a’u hadrodd i Lywodraeth Cymru.

2

Newid Syml

Drwy ddefnyddio cyfrifianellau carbon, gallwch gyfrifo ôl troed carbon eich sefydliad ac yna gymryd camau i’w leihau, er enghraifft drwy brynu ynni gwyrdd, symud drosodd i ddefnyddio golau LED neu ddefnyddio cerbydau trydan.

Nodau llesiant yr ydych wedi cyfrannu atynt

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang,

You have earned...

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang

Cymru gydnerth

Cymru gydnerth,

You have earned...

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd)