Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi'r uchelgais, caniatâd a rhwymedigaeth gyfreithiol i wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.
Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei wneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, i weithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac i atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Ddeddf yn unigryw i Gymru ac yn denu diddordeb o wledydd ar draws y byd, gan ei bod yn cynnig cyfle gwych i wneud newid hirbarhaol, positif i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Useful Resources
Saith Nod Llesiant
I wneud yn siŵr ein bod ni gyd yn gweithio tuag at yr un diben, mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn glir bod rhaid i’r cyrff cyhoeddus a restrwyd weithio tuag at gyflawni pob un o’r nodau, nid dim ond un neu ddau ohonynt yn unig.Mae gennym uchelgeisiau mawr o ran diogelu ein hamgylchedd a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru ac rydym yn arwain y ffordd gyda'n Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol”Sophie Howe | Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru


Yr egwyddor Datblygu Cynaliadwy
Mae’r Ddeddf yn diffinio Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru fel: “y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant.” Nodir pum ffordd o weithio sydd eu hangen er mwyn cyflawni’r saith nod llesiant. Mae’r dull hwn yn rhoi cyfle i feddwl yn arloesol, gan adlewyrchu’r ffordd rydym yn byw ein bywydau a’r hyn a ddisgwyliwn o’n gwasanaethau cyhoeddus.
Pum dull o weithio
Hirdymor
Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd
Atal
Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion
Integreiddio
Ystyried sut gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff chyoeddus eraill
Cydweithio
Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corff ei hun) helpu’r corff i fodloni ei amcanion llesiant
Cynnwys
Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu