Cymru gydnerth

“Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid.”

Dadansoddiad cyfredol y Comisiynydd yw nad yw’r amcanion llesiant a’r camau sy’n berthnasol i’r ‘amgylchedd’ a osodwyd gan lawer o gyrff cyhoeddus bob amser yn adlewyrchu gwir ddiffiniad y nod Cymru Gydnerth, sy’n ffocysu ar gynnal a gwella amgylchedd bioamrywiol naturiol gydag ecosystemau iach ac ymarferol.

Yn gyffredinol, maent yn ffocysu ar feysydd megis ailgylchu, llifogydd, glendid, tipio anghyfreithlon a lleihau allyriadau. Tra bo’r rhain yn feysydd pwysig, mae’n dangos diffyg yn y cynnydd tuag at helpu i gyflawni adferiad natur ac ecosystemau iach, cydnerth.

Yn fwy cadarnhaol, mae’n galonogol i weld y ffocws a’r sylw ar yr amgylchedd naturiol oddi wrth Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn eu hardaloedd. Hefyd, mae rhai byrddau iechyd a chyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwneud cysylltiadau cynyddol rhwng amgylchedd naturiol iach a gwell iechyd a lleisant.

Taith tuag at

Cymru gydnerth

Bioamrywiaeth a Phridd

Cynnal a gwella’r amgylchedd naturiol drwy reoli tir yn briodol i greu ecosystemau gweithredol iach

Mannau Gwyrdd Naturiol

Cynorthwyo cydnerthedd cymdeithasol a llesiant cymunedol

Gwybodaeth o Natur:

Cynyddu ymwybyddiaeth o bwsigrwydd amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iachach gweithredol naturiol

Dŵr ac Ansawdd Aer

Cynorthwyo cydnerthedd ecolegol gan wneud amgylchedd iachach ar gyfer bywyd gwyllt a phobl

Defnyddio Adnoddau Naturiol

Ymaddasu i amgylchedd sy’n newid lle mae angen defnyddio adnoddau’n effeithlon

Adnoddau Y Gallu I Greu

Subscribe to our Newsletter

Receive the latest news and updates from The Future Generations Commissioner for Wales

We never share your information.