Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Dadansoddiad cyfredol y Comisiynydd yw nad yw cyrff cyhoeddus yn dangos dealltwriaeth glir o ddiffiniad llawn y nod hwn.

Tra bo’r term ‘llewyrchus’ yn cael ei grybwyll yn aml yn amcanion llesiant cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, mae ei ddefnydd yn cyfeirio’n gyffredinol at addysg, cyflogaeth, tlodi neu Gynnyrch Domestig Gros. Golyga hyn eu bod yn colli rhai pynciau a amlinellir yn y ‘Siwrnai tuag at Gymru Lewyrchus’, sy’n deillio o’r diffiniad llawn o’r nod llesiant. Mae hyn yn cynnwys: gwaith gweddus, cymdeithas garbon isel, caffael teg a lleol, economïau lleol, sgiliau ar gyfer y dyfodol a defnyddio adnoddau’n effeithlon (economi cylchol).


Cyn hyn mae’r Comisiynydd wedi argymell tra bo bargeinion dinesig a rhaglenni datblygu economaidd eraill ledled Cymru’n symud ymlaen, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol sy’n ymgyfrannu ddangos drostynt eu hunain sut y maent yn cymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn arbennig, dylent fyfyrio ar y diffiniad statudol o Gymru Lewyrchus, yn ogystal â darbwyllo Llywodraeth y DG bod angen i’r fframwaith mwy blaengar hwn gael ei fabwysiadu.

Taith tuag at

Cymru lewyrchus

Caffael teg a lleol:

defnyddio caffael i hybu twf cynhwysol

Gwaith teilwng:

sbarduno arferion sy’n caniatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy sicrhau gwaith gweddus

Economïau lleol:

cynorthwyo economïau lleol cynhwysol a’r economi sylfaenol

Ynni cymunedol a chymdeithas garbon isel:

galluogi sefydliadau a chymunedau i leihau allyriadau a defnyddio ynni carbon isel

Sgiliau ar gyfer y dyfodol:

annog sefydliadau i ddatblygu poblogaeth fedrus, addas ar gyfer newidiadau technolegol y dyfodol

Subscribe to our Newsletter

Receive the latest news and updates from The Future Generations Commissioner for Wales

We never share your information.