Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

“Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang”

Mae Cymru’n unigryw yn y byd yn y modd y dengys ymrwymiad hollgynhwysfawr i’r Cenhedloedd Unedig, ac mae ein cyfraniad i’r rhain wedi cael ei gydnabod.

Mae dadansoddiad cyfredol y Comisiynydd yn dangos bod amcanion a chamau sy’n berthnasol i fod yn gyfrifol ar lefel byd-eang yn amrywio, ac nad yw cyrff cyhoeddus yn dangos yn glir na chredadwy eu cyfraniadau cadarnhaol i’r byd.
Dylem i gyd fod yn meddwl a gweithredu mewn ffordd sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Y man cychwyn yw cael dealltwriaeth glir o’r diffiniad o’r nod llesiant, fel bod unrhyw weithredu i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru yn ystyried a allai gwneud y fath beth fod yn gyfraniad cadarnhaol i lesiant byd-eang.

Taith tuag at

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Sicrhau fod ein cadwyni cyflenwi’n deg, yn foesegol a chynaliadwy

Cynorthwyo ymddygiad cynaliadwy a gwneud y cysylltiadau

Chwarae ein rhan i sicrhau fod Cymru’n groesawgar, yn ddiogel ac yn deg i bawb

Sicrhau ein bod yn deall pwysigrwydd defnyddio
adnoddau’r ddaear yn effeithlon a chyfrannu at lesiant byd-eang

Gwneud y penderfyniadau cywir yn awr, i alluogi cenedlaethau’r dyfodol i ffynnu

Subscribe to our Newsletter

Receive the latest news and updates from The Future Generations Commissioner for Wales

We never share your information.