Cyrff Cyhoeddus

Ar hyn o bryd mae 48 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ddarostyngedig i ddyletswyddau’r Ddeddf. 

Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda’r cyrff hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Ei brif ddyletswyddau yw: 

  • hyrwyddo datblygiad cynaliadwy;
  • annog cyrff cyhoeddus i roi mwy o ystyriaeth i’w heffaith hirdymor; a
  • monitro ac asesu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu hamcanion llesiant.

Mae gan y Comisiynydd hefyd bŵer i gynnal adolygiadau i’r graddau y mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau a darparu argymhellion iddynt o ganlyniad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yma. 

Mae hyn yn golygu darparu cyngor mewn sawl ffordd i annog cyrff cyhoeddus i gymhwyso’r Ddeddf i’w cynllunio, gwneud penderfyniadau a chyflawni, megis drwy gynhyrchu adnoddau ar y cyd â nhw; darparu cyngor ysgrifenedig yn asesu i ba raddau y maent wedi cyflawni eu hamcanion llesiant; gweithio gyda nhw i gynnal adolygiadau; a darparu cefnogaeth neu hyfforddiant dwys. 

Bwriad y gwaith y mae’r Comisiynydd yn ei wneud ar lefel y Llywodraeth yw helpu cyrff cyhoeddus i wneud y Ddeddf hyd yn oed yn haws i’w chymhwyso i bopeth a wnânt. 

Mae’r rhan fwyaf o’r cyrff cyhoeddus hyn hefyd yn aelodau o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Er mwyn helpu Cyrff Cyhoeddus a sefydliadau eraill i symud ymlaen ar eu taith tuag at gynaliadwyedd fel y’i diffinnir gan y Ddeddf, mae ein Gwiriwr Cynnydd Ffyrdd o Weithio yn offeryn y gellir ei ddefnyddio i helpu i fesur cynnydd hyd yma ac ar y camau nesaf y gallai fod eu hangen cymhwyso’r egwyddor cynaliadwyedd ymhellach.

Cyrff Cenedlaethol

Cyfoeth Naturiol Cymru

Awdurdodau Lleol

Dinas a Sir Abertawe

Byrddau Iechyd Lleol

Awdurdodau Tân ac Achub

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Also in Our Work