Rff cyhoeddus yng Nghymru’n gwario dros £6 biliwn bob blwyddyn ar brynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei weld fel buddsoddiad tuag at gwrdd â’n saith nod llesiant. Rydyn ni wedi mynegi pryderon wrth Lywodraeth Cymru ac wedi rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cymru gan amlygu’r ffaith nad yw polisi caffael ac arfer yng Nghymru wedi cydymffurfio â’r gofynion newydd o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Nid yw’r Datganiad Polisi Caffael, er enghraifft yn adlewyrchu’r Ddeddf ac nid yw’n glir i ba raddau mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru’n ymgorffori’r Ddeddf.

Yn dilyn yr ymyriadau hyn ym Medi 2017 cychwynnodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC, adolygiad o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru. Mae hwn yn gyfle clir i sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn fframwaith trosfwaol ar gyfer y modd yr ydym yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau newid mewn polisi a threfniadaeth yn y maes hwn rydyn ni wedi:

  • Cyfrannu tuag at adolygiad Llywodraeth Cymru drwy aelodaeth o’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid. Mae’r adolygiad hwn yn mynd yn ei flaen ac rydyn ni’n parhau i weithio gyda swyddogion a gyda’r Grŵp i bwysleisio’r potensial ar gyfer gwella llesiant Cymru drwy’r hyn yr ydym yn ei brynu.
  • Cynorthwyo gweithdai ar ran Gwerth Cymru a’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ac wedi trefnu cymorth i’w helpu i ddeall sut y gellir defnyddio’r Ddeddf yn well yn eu holl weithgareddau, ar lefel strategol ac ymarferol.
  • Herio cyrff cyhoeddus i edrych ar y modd y gallant ddefnyddio caffael fel cyfrwng i roi cynnig ar ddulliau newydd o feddwl a darganfod ffyrdd drwy’r rhain y gall caffael gyflawni llawer mwy na dim ond prynu nwyddau a gwasanaethau, drwy ddefnyddio’r ymagwedd cylch bywyd cyfan, gan gyfrannu at ddileu gwastraff a charbon a chyflawni buddiannau cymunedol gwirioneddol, yng Nghymru ac mewn gwledydd sy’n datblygu. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag ystod o sefydliadau eraill yn cynnwys WRAP, Cyfnewidfa Arfer Da, Busnes yn y Gymuned, Canolfan Strategaethau Economaidd Lleol a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i archwilio cyfleoedd i gydweithio, i herio a newid y ffordd y mae caffael yn cael ei wneud yng Nghymru.
  • Gweithio gyda’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ddylanwadu ar ddatblygiad fframweithiau bwyd yn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol – drwy ddilyn y pum dull o weithio maent wedi datblygu amcanion caffael o dan bob un o’r saith nod llesiant i hybu cyflenwyr lleol, ystyriaethau amgylcheddol, lleihau allyriadau carbon, nwyddau moesegol a Masnach Deg.  Mae’r contract fframwaith bwyd yn werth £73 miliwn ac mae ar gael i 72 o gwsmeriaid cyrff cyhoeddus. Canlyniad y gwaith yw bod 80% o gyflenwyr ar y contractau newydd bwyd ffres yn FBaChau Cymreig. Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn awr yn gweithio gyda’u cyflenwyr i ddatblygu dangosyddion a fydd yn monitro gwastraff bwyd, pacio, y defnydd o  nwyddau cynaliadwy, trafnidiaeth ac allyriadau nwyon tŷ gwydr gyda’r bwriad o wella perfformiad amgylcheddol dros amser.
  • Cynnwys cyngor ar gaffael yn fy nghyngor statudol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus fel a ddisgrifir uchod yn yr adroddiad hwn.
  • Fel canlyniad i’r gwaith gyda hwynt, rydyn ni wedi dylanwadu ac wedi trwytho ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ddatblygu prosiectau peilot sy’n ffocysu ar y Ddeddf, gan weithio gyda chynghorau Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy, Ceredigion a Sir Benfro  i ddatblygu ymagwedd effeithiol a chyson tuag at roi’r Ddeddf ar waith yng ngweithgaredd caffael sefydliadau, y gellir wedyn ei efelychu ledled Cymru. Mae rhai o’r prosiectau peilot hyn yn golygu lleihau deunydd plastig yn y gadwyn gyflenwi sy’n ymwneud â bwyd, gan gynyddu’r cyflenwad lleol drwy wella dadansoddiad o gadwyni cyflenwi, cynorthwyo awdurdodau gyda’u Fframwaith Deunydd Arlwyo Tafladwy drwy edrych ar ddulliau amgen cynaliadwy. Mae’r prosiectau peilot wedi cychwyn, ac mae ffocws fy ngwaith yn awr ar gynorthwyo’r dasg o adeiladu capasiti, rhoi prawf ar wahanol ymagweddau ac archwilio cyfleoedd i ymgorffori’r Ddeddf mewn nwyddau penodol, cynyddu’r nifer o gyflenwyr lleol yn y gadwyn gyflenwi a ffocysu ar nwyddau plastig a phacio. Rydyn ni’n  edrych ymlaen at weld effaith yr ymagweddau newydd hyn dros y flwyddyn sy’n dod.