Ers Ebrill 2017, mae cynghorau, byrddau iechyd, parciau cenedlaethol, gwasanaethau tân ac achub, Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol megis Cyfoeth Naturiol Cymru a Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio tuag at gasgliad o 345 o amcanion llesiant.

Mae’r adroddiad ‘Llesiant yng Nghymru: y siwrnai hyd yn hyn’’ yn amlinellu’r hyn y mae’r sefydliadau wedi dweud y byddant yn ei wneud yn y flwyddyn gyntaf ac yn rhoi cyngor ar y ffordd orau iddynt ddangos eu bod yn cymryd camau effeithiol i gyflawni eu hamcanion.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi sylwadau fel adroddiad paralel, Myfyrio ar Flwyddyn Un: sut mae Cyrff Cyhoeddus wedi Ymateb i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i adroddiad ar adnoddau eraill) ar sut mae’r 44 cyrff cyhoeddus yn dechrau ymateb i’w dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae’r ddau adroddiad gyda’i gilydd yn rhoi darlun mewn amser o ble rydyn ni yng Nghymru – ar ôl un flwyddyn – ac i ble mae angen i ni fynd