Fel comisiynwyr annibynnol Cymru ar gyfer Plant ac ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol mae gennym rolau gwahanol ond diddordebau cyffredin.

Rydym ni am alluogi cyrff cyhoeddus i sicrhau bod hawliau plant i fod yn ddiogel, yn iach ac i ffynnu nawr, ar yr adeg hon, yn ganolog i’w cynllunio a’u darpariaeth.

Yn yr adroddiad hwn rydym hefyd am sicrhau eu bod yn cynllunio ar gyfer y tymor hir – ar gyfer gweddill bywydau’r plant sy’n byw yn eu cymunedau nawr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol sydd heb eu geni eto. Rydym wedi cydweithio i ystyried sut gall ymrwymiad Cymru i hawliau plant a gydnabyddir yn rhyngwladol weithio gyda Deddf arloesol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i ddiwallu anghenion plant – nawr ac yn y dyfodol.