Mae Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol wedi ei greu i gynorthwyo’r sector cyhoeddus ac eraill yng Nghymru i gyflwyno prosiectau a seilwaith sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i feddwl yn wahanol am y modd y mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflwyno yng Nghymru. Rhaid i Gyrff Cyhoeddus weithio mewn ffordd sy’n gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Bydd defnyddio’r fframwaith hwn yn helpu prosiectau i ddatblygu mewn dull integredig a chydweithredol, yn seiliedig ar yr hyn sydd ar bobl ei angen a chynorthwyo cymunedau heddiw yn ogystal ag yn yr hirdymor. Gellir ei ddefnyddio i gynllunio yn erbyn dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf a helpu i sefydlu ysbryd y Ddeddf drwy, er enghraifft, leihad yn y defnydd o ddeunydd crai, cynhyrchu gwastraff, symud tuag at gymdeithas carbon-isel, ynni glân, fwy cydnerth a chyfartal, gan ddarparu swyddi sicr gyda chyflog da, ac adeiladu amgylcheddau cydnerth â chysylltedd da i bawb yng Nghymru.

Dyma’r fersiwn cyntaf o’r fframwaith a byddwn yn parhau i ddatblygu a chreu fersiynau mwy diweddar yn seiliedig ar adborth oddi wrth ddefnyddwyr.

Rydyn ni’n awyddus i’r Fframwaith fod mor ddefnyddiol â phosib ac yn croesawu eich adborth yn arbennig ar y canlynol:

  • Pa mor ddefnyddiol yw’r Fframwaith? A wnaeth eich helpu i ddeall a defnyddio’r Ddeddf?
  • A yw’r cynnwys yn iawn? A yw wedi cynnwys popeth neu a oes rhywbeth ar goll?
  • A yw yn rhy hir neu’n rhy dechnegol?
  • A fedrem ni ei wneud yn fyrrach? Os felly, beth fedrem ni/ddylen ni ei ddiddymu?
  • A yw’r iaith yn  hawdd ei dilyn neu’n rhy gymhleth mewn mannau? Oes angen symleiddio’r iaith?
  • A wnaeth eich helpu i feddwl am eich prosiect/menter yn wahanol?
  • A ydych chi’n defnyddio unrhyw ddulliau eraill o weithio i gynorthwyo eich gwaith ar y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol? Os felly a yw ein fframwaith yn cydfynd â hyn?
  • Sut fedrai’r fframwaith ffitio mewn a chyd-fynd â’ch “methodoleg rheoli prosiectau” presennol? (rydyn ni’n awyddus i osgoi dyblygu a biwrocratiaeth)?

Os yr ydych wedi darllen neu ddefnyddio’r Fframwaith, os gwelwch yn dda anfonwch eich adborth atom drwy gyfrwng contactus@futuregenerations.wales