Llun o ennillwyr NGFP

Yr wythnos ddiwethaf euthum i Frwsel fel rhan o rwydwaith y ‘Next Generation Foresight Practitioners’ (NGFP), grŵp o bobl o dan 35 mlwydd oed sy’n arwain eu cymunedau mewn cynllunio a llunio’r dyfodol. Roeddwn yn ffodus i gael fy enwi’n ‘Europe Special Awardee’ yn dilyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth NGFP yn gynharach eleni.

Mae’r enillydd, Pupul Bisht, yn dod o’r India a bydd yn datblygu ymagwedd newydd, anorllewinol tuag at ragwelediad wedi ei ysbrydoli gan draddodiadau adrodd storïau gwerin. Mae’r un a ddaeth yn ail, Bunmi Ajilore, yn dod o Nigeria a bydd hi’n datblygu labordy’r dyfodol ar gyfer dwyn ymagweddau rhagwelediad cyfranogol i bobl broffesiynol ifanc ar draws Affrica a’u cynorthwyo i lunio’r dyfodol. Roedd yr enillwyr eraill o Colombia, Twrci, Gwlad Pwyl, Singapore, yr Iseldiroedd, UDA, Mecsico ac Awstralia, ac rydyn ni’n gobeithio adeiladu rhwydwaith byd-eang i ddatblygu arddangosfa o ymagweddau arloesol tuag waith ar y dyfodol a rhagweldediad. Gweler rhagor o wybodaeth ar yr enillwyr yma.

Treuliasom ddau ddiwrnod yn y gynhadledd ‘Global trends to 2030: Shaping the future in a fast-changing world’. Roedd yna lawer o wahanol siaradwyr a’r pynciau’n amrywio o ddyfodol democratiaeth ryddfrydol i geowleidyddiaeth deallusrwydd artiffisial, i’r gweithredu ar y cyd sydd ei angen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Efallai, fel un o lawer o bobl Prydain sy’n arswydo wrth feddwl am adael yr UE ymhen ychydig fisoedd, roeddwn i’n hyper-sensitif i’r gair ‘Brexit’ ond cafodd ei grybwyll ymhob cyflwyniad bron ac ym mhob sgwrs a gefais.

Arweiniodd hyn fi i feddwl a fyddai ymagwedd yn ymwneud â rhagwelediad wedi medru ‘proffwydo’ Brexit ac felly efallai wedi galluogi pobl Prydain i ddewis penderfyniad mwy gwybodus, gan ganiatáu, efallai, i’r DG a’r UE fod yn fwy parod ar gyfer pleidlais dros adael. Nid ymwneud â rhagweld yn union beth ‘fydd’ yn digwydd yw rhagwelediad ond ymwneud â chymhwyso ystod o dechnegau i ddeall beth ‘allai’ ddigwydd a chreu’r gofod i feddwl am opsiynau polisi mewn perthynas â’r posibiliadau hyn.

Mae arwyddion wedi bodoli ers blynyddoedd bod gwleidyddiaeth yn y DG, fel yr ydym ni yn ei hadnabod, yn newid. Mae darniad pleidiau gwleidyddol traddodiadol a chynnydd yn y tebygrwydd o bobl yn rhoi’r gorau i bleidleisio i bleidiau prif ffrwd yn ddau signal arwyddocaol. Petai’r arwyddion hyn wedi cael eu mapio yn erbyn gwybodaeth am ddiflastod a diffyg ymgysylltiad y cyhoedd yn dilyn bron i ddegawd o galedi, ac yn erbyn gwybodaeth am gynnydd mewn pryder am fewnfudo, a fydden ni wedi medru dod i’r casgliad y gallai refferendwm ar Brexit wyro i gyfeiriad annisgwyl? Ac a fyddai hyn wedi newid unrhyw beth?

Wrth gwrs, yn awr ni fyddwn ni byth yn gwybod ond mae’n glir bod gan y DG lawer i’w ddysgu oddi wrth wledydd eraill sydd wedi bod yn defnyddio rhagwelediad ers blynyddoedd. Gyda’n Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, roedd yn glir iawn i mi y dylem ni yng Nghymru fod yn dysgu oddi ac yn efelychu arfer da mewn mannau eraill. Gwnaeth dwy o’r siaradwyr yn y gynhadledd argraff arbennig arnaf:

Yn gyntaf, amlinellodd Pei Shan Lim, Pennaeth Canolfan Dyfodol Strategol yn Singapore yr ymagwedd sydd wedi ei mabwysiadu ers y1980au hwyr. Mae’r ganolfan yn gweithredu fel melin drafod o fewn llywodraeth Singapore, a ddisgrifiodd fel ‘cael y pŵer i ddylanwadu’n fewnol ond hefyd fedru dylanwadu’n eang ar rwydweithiau allanol.” Mae gan Singapore a Chymru rai pethau’n gyffredin – mae gan Singapore boblogaeth o 4 miliwn. 3 miliwn yw poblogaeth Cymru. Mae yna hefyd wahaniaethau pwysig: mae meddwl yn wleidyddol yn y tymor byr yn her i ni yma yng Nghymru, ond ffactor allweddol arweinwyr rhagwelediad gwleidyddol yn Singapore yw bod y blaid sy’n rheoli wedi bod yn rheoli ers 1959 – disgrifiwyd hyn i mi fel hyn: ‘nid yw’r gwleidyddion yn poeni am feddwl yn yr hirdymor oherwydd maen nhw mor siŵr eu bod yn mynd i fod yno am yr hirdymor.”

Gweler rhagor o wybodaeth am ymagwedd Singapore yma.

Yn ail,  oedd Antonella Mei-Pochtler, sy’n Gynghorydd Arbennig i Ganghellor Awstria ac arweinydd yr uned strategaeth ThinkAustria, sydd newydd ei sefydlu. Siaradodd am bwysigrwydd cyflwyno tystiolaeth a chyfathrebu am ragwelediad yn y ffordd iawn gan ddweud “nid yw tystiolaeth dda yn docyn i argyhoeddiad – mae angen mwy na hynny i argyhoeddi rhai sy’n gwneud penderfyniadau”. Gellir gweld mwy am ymagwedd Awstria tuag at ragwelediad yma.

I mi, mae’r ddwy enghraifft hyn yn awgrymu tra bod gennym ddeddfwriaeth yn ymwneud â meddwl am y dyfodol yng Nghymru, rydyn ni ar ei hôl hi mewn cymhariaeth â llawer o fannau eraill yn nhermau’r modd yr ydym yn defnyddio technegau’r dyfodol a rhagwelediad. Gobeithiaf fod yn rhan o wella hyn drwy fy ymgyfraniad yn rhwydwaith yr NGFP, gan rannu syniadau ac ysbrydoli newid.

Cathy.Madge@futuregenerations.wales

@cathy_madge