Rhagflas o’r Hyn Sydd i Ddod. Os ydyw gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i ddarparu gwell gwasanaeth, mae’n rhaid cael newid radical mewn diwylliant, un sy’n torri tir newydd, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – dyna’r neges allweddol mewn digwyddiad a drefnwyd ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a Chomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd y digwyddiad undydd, ‘Llunio Atebolrwydd yng Nghymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’ yn archwilio rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Archwilydd Cyffredinol mewn perthynas â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn archwilio sut y gallant weithio gyda’i gilydd i gynorthwyo cyrff cyhoeddus wrth iddynt roi ar waith egwyddorion datblygu cynaliadwy  sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.

Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol:

“Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn am newid sylfaenol yn y ffordd yr ydym yn gwneud busnes yn y sector cyhoeddus. Mae’n rhoi caniatâd i’r rhai sy’n herio’r status quo a’r diwylliant cydymffurfio i ddwyn gwasanaethau cyhoeddus yn ôl at y pwrpas y cawsant eu creu i’w gyflawni yn y lle cyntaf – sef gwella bywydau a llesiant pobl yma yng Nghymru, heddiw ac ar gyfer pob yfory sydd i ddod.

“Rydym i gyd yn gwybod bod yna archwaeth am newid allan yn y fan acw – yn nhermau’r newid y mae’r cyhoedd yn ei hawlio oddi wrth y gwasanaethau cyhoeddus, a hefyd ymhlith y bobl hynny eu hunain sy’n gweithio i’r fath wasanaethau.

“Mae’r Ddeddf yn gatalydd ar gyfer newid, a chanddi gyd-ymagwedd a dealltwriaeth a fydd yn helpu i wireddu’r newid radical sydd ei angen i wella’r amgylchedd cymdeithasol a llesiant diwylliannol Cymru.”

Dywedodd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

“Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod Cymru ar lwybr newydd ac mae’n hollbwysig fy mod i, a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, yn gweithio’n agos gyda chyrff cyhoeddus i’w cynorthwyo a’u herio i gyflawni eu cyfrifoldebau.

“Dyna pam y mae’r digwyddiad heddiw mor bwysig. Mae’n rhoi cyfle i ni gyd weithio gyda’n gilydd i helpu i ail-lunio’r ffordd yr ydym i gyd yn gweithio – nid yn unig er mwyn gwella Cymru heddiw, ond hefyd y Gymru a fydd yma yfory.”