Wrth ymateb i adroddiad ‘Llesiant Cymru’ Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw, meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

“Rwy’n croesawu ail adroddiad ‘Llesiant Cymru’ am ei fod yn darparu darlun o’r modd rydym ni’n byw, yn dysgu ac yn gweithio yng Nghymru. Mae’n cynnwys y data diweddaraf ac yn cynnig golwg eang ar y modd mae Cymru’n symud i gyfeiriad cyflawni’r saith nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

“Mae’r adroddiad yn dangos sawl maes ble gwnaed cynnydd cadarnhaol, cynnydd mewn cynhyrchu ynni adferadwy a thystiolaeth i awgrymu fod cartrefi’n dod yn fwy ynni-effeithlon. Rwy’n croesawu’r gwaith ar leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, ac yn gyffredinol, mae perfformiad y farchnad swyddi yng Nghymru wedi parhau i fod yn gryf, wrth i’r bylchau rhwng cyfraddau cyflogaeth ac anweithgarwch Cymru a’r DU barhau i fod yn isel mewn telerau hanesyddol, ac yn llawer is na’r bylchau a welid cyn i ni gael datganoli.

“Mae Cymru’n dal i gystadlu â’r goreuon o ran cyfraddau ailgylchu, wrth i 64% o wastraff trefol gael ei ailgylchu bellach. Caf fy nghalonogi hefyd gan y cynnydd yn niferoedd y bobl sy’n cyfranogi yn y celfyddydau, am fod hyn yn gallu cael effaith gadarnhaol ar lesiant a datblygu sgiliau newydd.

“Serch hyn oll, mae’r ystadegau’n amlygu nifer o’r heriau yr wyf eisoes wedi’u cyflwyno i’r Llywodraeth, am fod angen iddyn nhw fod yn fwy blaengar wrth wneud penderfyniadau ac wrth sicrhau eu bod yn ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, ac yn gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu.

“Dengys yr adroddiad fod amrywiaeth fiolegol gyffredinol yn dirywio, a chafwyd cynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn 2016 o’i gymharu â 2015. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol i’r ddadl a gyflwynais, sef nad buddsoddi £1.4 biliwn ar gynnig Llwybr Du ar gyfer yr M4 yw’r peth gorau er budd cenedlaethau presennol na rhai’r dyfodol.

“Mae Cymru eisoes yn llithro’n ôl ar gwrdd â thargedau lleihau carbon; rhaid i’r Llywodraeth roi ffocws uwch mewn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na heolydd os yw’n mynd i ddod unrhyw le’n agos at gyflawni targed o leihad o 43% mewn allyriadau trafnidiaeth erbyn 2030. Bydd adeiladu’r Llwybr Du yn arwain at allyrru 500,000+ o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol, na fydd yn cael eu tynnu o’r atmosffer tan o leiaf 2072, ac a fydd yn niweidio byd natur a bywyd gwyllt ar Wastadeddau Gwent mewn modd na ellir mo’i drwsio.

“Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio ymhellach pam y dylai Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill weithredu dull ataliol sydd wedi’i dargedu er mwyn taclo rhai o’r ffactorau cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd a llesiant pobl. Mae’r ffigurau a ryddhawyd heddiw yn dangos fod bron i un o bob pump o bobl yn teimlo’n unig, ac un o bob tri disgybl ysgol uwchradd yn teimlo’n unig weithiau. Wrth i dystiolaeth awgrymu fod unigrwydd yn gallu bod yr un mor niweidiol i iechyd cyhoeddus â smygu 15 sigarét y dydd, mae angen i’r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus lleol fuddsoddi ar frys mewn gwasanaethau i atal unigrwydd.

“Mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd ledled Cymru’n datblygu gwasanaethau er mwyn gwneud hyn, ond rhaid cefnogi’r gwasanaethau hynny gyda buddsoddiad a blaenoriaethu gan lywodraeth er mwyn i ni allu symud oddi wrth ddull anghynaladwy o drin pobl pan fyddan nhw’n sâl, tuag at ganolbwyntio’n holistig ar y pethau sy’n cadw pobl yn iach yn y lle cyntaf.

“Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu cyfle i ni fod yn fwy arloesol ac uchelgeisiol wrth daclo rhai o’n hanawsterau mwyaf. Rwy’n disgwyl gweld Llywodraeth Cymru’n gosod cerrig milltir, fel y mae’r ddeddfwriaeth yn gofyn iddyn nhw wneud, er mwyn canolbwyntio ar y meysydd ble mae angen gweld y cynnydd mwyaf.”