Heddiw, Dydd Mawrth, 25ain Gorffennaf, cyhoeddir adroddiad pwysig cyntaf Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar lesiant Cymru yn awr ac yn y dyfodol

Mae’r adroddiad Llesiant yng Nghymru: Cynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory’ yn amlygu’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol, wedi ei sbarduno gan yr angen i newid y ffordd yr ydym yn cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn dilyn cyhoeddi’r 19 asesiad llesiant gan yr 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Cymru.

Creodd y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2915 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydlwyd ychydig dros flwyddyn yn ôl. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gyhoeddi asesiad lleol o lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol – gan gasglu ac asesu’r data sydd ar gael, edrych ar dueddiadau’r dyfodol ac ennyn ymgyfraniad ystod o bartneriaid, pobl a chymunedau lleol i helpu gwasanaethau cyhoeddus i gael gwell dealltwriaeth o’u profiadau.

Mae Ms Howe wedi gweithio gydag ystod o bobl, yn cynnwys partneriaeth gyda Netherwood Sustainable Futures, Prifysgol Caerdydd a Mark Lang Consulting, i ddarparu mewnwelediad i’r modd y mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi mynd ati i gyflawni’r ddyletswydd newydd hon.

Daw’r gwaith i’r casgliad bod Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus I’w llongyfarch am eu hymagwedd gadarnhaol tuag at gwblhau’r asesiadau. Maent wedi cymryd cam cyntaf pwysig i’r cyfeiriad cywir ond mae hefyd yn amlygu’r heriau gwirioneddol a wynebir gan gyrff cyhoeddus os yr ydynt i baratoi’n briodol ar gyfer ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol a chynllunio ar gyfer llesiant.

Dywed Ms Howe “Mae creadigaeth Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn dod ag un o’r cyfleoedd mwyaf i’r sectorcyhoeddus yng Nghymru i gyflwyno gwasanaethau sydd wedi eu gwreiddio yn realiti bywyd pobl ac a fydd o fantais i lesiant cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae’r asesiad llesiant yn rhoi cipolwg i ni o gyflwr y genedl, nid yn unig drwy archwilio’r materion yn awr ond drwy dalu sylw i’r modd y gallent gyflwyno’u hunain ym mywydau pobl yn yr hirdymor. Er enghraifft, gwyddom fod 50% o bobl sy’n dioddef oddi wrth broblemau iechyd meddwl yn dangos symptomau cyn iddynt gyrraedd 14 mlwydd oed, felly sut fedr cyrff cyhoeddus ymyrryd yn gynt a pha newidiadau sydd eu hangen fel y gall gwasanaethau ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc atal problemau pellach yn ystod oedolaeth.

“Mae’r adroddiad yn amlygu data a dadansoddiad diddorol, yn cynnwys rhai tueddiadau brawychus yn y dyfodol yn ymwneud â gordewdra ymhlith plant. Mae chwarter ein plant eisoes yn ordew, ac mae Foresight UK yn rhagweld y bydd dros 25% o bobl erbyn 2050 yn cael diagnosis o ordewdra clinigol. Mae’r tueddiad hwn yn cyflwyno llawer o heriau, yn arbennig i’n gwasanaethau iechyd cyhoeddus dros y tri degawd nesaf.

“Nodwedd arall bwysig yw bod angen i wasanaethau cyhoeddus integreiddio a gweithio gyda’i gilydd ar draws pob adran i gynorthwyo pobl yn well. Yn ddiweddar cwrddais â dynes â phroblemau iechyd meddwl oedd wedi bod yn ei chael hi’n anodd talu ei bil treth cyngor. Oherwydd cyfres o wallau gweinyddol a dim un pwynt cyswllt cyson, gwaethygodd y sefyllfa’n gyflym gan arwain at achos llys a dirywiad cyflym yn ei chyflwr iechyd meddwl a’i llesiant. Petai’r tîm treth cyngor wedi cysylltu hefyd â’r gwasanaeth iechyd meddwl yn ystod y cysylltiad cyntaf, gellid bod wedi atal hyn rhag digwydd er mwyn sicrhau llesiant y ddynes hon.

“Mae angen hefyd am ddadansoddiad dyfnach, tymor hwy. Er enghraifft, mae angen i wasanaethau cyhoeddus a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru ddeall yn well effaith posibl awtomatiaeth ar swyddi presennol, gan y rhagwelir y bydd 35% o swyddi o bosib yn cael eu colli i awtomatiaeth dros y degawd nesaf. Ni allwn ragweld y dyfodol gyda sicrwydd pendant, ond mae angen i gyrff cyhoeddus fod yn fyw i’r tueddiadau hyn a fydd yn effeithio ar y dyfodol a pharatoi ar eu cyfer, gan ein bod fel arall mewn perygl o wneud penderfyniadau gwael, anaddas ar gyfer y dyfodol.

Crynodeb o’r canfyddiadau allweddol:-

  • Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus i’w llongyfarch am yr ymagwedd gadarnhaol a fabwysiadwyd ganddynt tuag at gwblhau’r asesiadau. Maent wedi cymryd cam cyntaf pwysig i’r cyfeiriad cywir ond mae’r gwaith hefyd yn amlygu’r heriau gwirioneddol a wynebir ganddynt wrth geisio paratoi’n briodol ar gyfer ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol a chynllunio ar gyfer llesiant.
  • Bydd arweinyddiaeth gref yn parhau i fod yn bwysig. Mae angen gwell arwyddion o barodrwydd i wneud pethau’n wahanol, i barhau i chwalu seilos traddodiadol a symud y ffocws o’r tymor byr i’r tymor hwy.
  • Mae angen gwneud rhagor o waith i adeiladu gwell dealltwriaeth o fywydau pobl. Dangosodd yr asesiadau bod ymdrechion clir wedi cael eu gwneud i weithio gyda’r cyhoedd ond mae angen gwneud rhagor fel y gellir symud i ffwrdd oddi wrth ymgynghori traddodiadol tuag at sgwrs barhaus am y dyfodol a thalu sylw i’r wybodaeth sydd ym meddiant partneriaid a’r wybodaeth dydd i ddydd a gesglir gan wasanaethau sy’n gweithio yng nghalon ein cymunedau.
  • Mae’r asesiadau’n amlygu nifer o dueddiadau brawychus. Mae angen I Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ennill y sgiliau a’r adnoddau a’r arbenigedd i ddeall tueddiadau’r dyfodol yn well, ac anghenion cenedlaethau’r dyfodol a sut i ymateb i’r rhain.
  • Mae angen i ni dwrio’n ddyfnach i mewn i ddata. Dylai’r asesiadau fod yn fwy na chasgliad o ddata; dylent fod yn gyfle i wneud cysylltiadau rhwng materion allweddol a gofyn ‘pa ots?’ fel canlyniad i’r data sydd gennym. Mae’r ddealltwriaeth a’r sgiliau i wneud hyn ar draws sefydliadau yn gyfyngedig ac mae angen ei ddatblygu ymhellach.
  • Mae materion yn dal i gael eu taclo’n aml iawn ar eu pennau eu hunain. Mae angen i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ddangos dealltwriaeth ehangach o lesiant – wedi ei wreiddio ym mhob un o’r saith nod llesiant  gan gydnabod y cysylltiadau rhwng materion.
Llesiant yng Nghymru
Llesiant yng Nghymru: cynllunio heddiw ar gyfer gwell yfory