Mae gen i barch at y pryderon a fynegwyd gan bobl leol am waredu gwastraff o Hinkley Point. Mae hwn yn amlwg yn bwnc emosiynol a gallaf ddeall pam mae rhai aelodau o’r cyhoedd yn poeni.

Rwy’n awyddus i ymateb ble bynnag mae hynny’n bosibl i bryderon a godir gan y cyhoedd ond gallaf wneud hynny’n unig o fewn y pwerau a gyflwynwyd i mi gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r adnoddau sydd ar gael i mi. Cafwyd nifer o ddatganiadau anghywir ar yr hyn y gallaf ac y dylem fod yn medru ei wneud parthed y mater hwn.

Mae’r pwerau sydd ar gael i mi wedi eu disgrifio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Mae gen i bwerau i gynghori cyrff cyhoeddus yn cynnwys ar sut y maent yn cyflawni eu hamcanion llesiant ac mae gen i hefyd ddyletswyddau i fonitro ac asesu i ba raddau y maent yn gwneud hyn. Rwyf wedi rhoi cyngor i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddatblygu eu cynlluniau llesiant ac ar hyn o bryd rwyf yn y broses o fonitro ac asesu sut mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu hamcanion.

Er y gall y byddaf weithiau’n awyddus i atal neu newid penderfyniadau, yn anffodus nid yw’r gyfraith yn caniatáu i mi wneud hynny. Ni fedraf wyrdroi penderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud neu benderfynu canlyniad penderfyniad penodol ar unrhyw adeg arbennig. Yn wahanol i Gomisiynwyr eraill, nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi swyddogaeth gwaith-achos i mi ar gyfer cynorthwyo achosion unigol ac nid yw fy swyddfa wedi ei sefydlu mewn cyfraith fel haen ychwanegol o apêl ar faterion penodol.

Fodd bynnag, mae’r ddeddf yn caniatáu i mi roi cyngor i gyrff cyhoeddus, i adolygu i ba raddau mae corff cyhoeddus yn gwarchod anghenion cenedlaethau’r dyfodol a thalu sylw i effaith hir eu gwaith ac argymell newid yn y dyfodol yn y broses sy’n arwain at benderfyniad corff cyhoeddus. Caiff adolygiadau eu dylunio o fewn y fframwaith deddfwriaethol i roi mewnwelediad i mi fel y gallaf helpu cyrff cyhoeddus i wella’r ffordd y maent yn edrych ar effaith hirdymor eu penderfyniadau yn y dyfodol.  Ni fedr yr argymhellion a wneir gennyf orfodi cyrff cyhoeddus i newid eu penderfyniadau a byddent yn berthnasol yn unig i benderfyniadau a wneir yn y dyfodol.

Parthed pwyntiau penodol ar amserlen trwyddedu morol Hinkley Point a chymhwysiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, rwyf wedi cael cyngor ar y mater hwn ac hefyd wedi cysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru. Maent wedi cadarnhau bod y Drwydded Forol 12/45/ML wedi ei chyflwyno i’r ymgeiswyr ym mis Gorffennaf 2014, gan awdurdodi gwaredu gwastraff sy’n codi o safle datblygu Hinkley Point C i safle gwaredu Cardiff Grounds, yn amodol ar yr amodau yn y drwydded.

Dywedwyd wrthyf mai’r ddogfen (12/45/MLv1 a gyhoeddwyd ar 22 Mawrth 2018) yw’r drwydded wreiddiol gyda newid cyfeiriad Prif Swyddfa’r ymgeisydd. Nid yw hyn yn golygu penderfyniad newydd gan fod amodau’r Drwydded wreiddiol yn dal heb eu newid. Dim ond newid gweinyddol yn y Drwydded wreiddiol a geir yn y ddogfen ddiweddar (h.y. newid cyfeiriad Prif Swyddfa’r ymgeisydd). Nid yw’r broses hon, felly’n cynnwys penderfyniad y gall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a basiwyd yn 2015, ac a ddaeth i rym yn 2016, fod yn gyfrifol amdano,

Ni fedraf wneud sylwadau manwl ar y broses a ddilynwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru parthed y penderfyniad trwyddedu hwn. Hwy sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â hyn, a’r cyfan y gellir ei ddweud yw ei bod yn bwysig bod y cyrff sy’n gyfrifol am benderfynu ar geisiadau am drwyddedau, yn yr achos hwn Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n ymgyfrannu mewn ymgynghoriad ar y mater hwn, yn medru gwneud hynny gan ddilyn dadansoddiad o dystiolaeth ac o fewn paramedrau’r ddeddfwriaeth berthnasol. Yn yr achos hwn, nid oedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddeddfwriaeth berthnasol oherwydd amseru’r penderfyniad. Rwyf yn ymwybodol bod cwestiynau’n ymwneud ag ansawdd y dystiolaeth ar hyn o bryd yn cael eu codi gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac eraill.

Fodd bynnag, parthed materion ehangach sy’n ymwneud â thrwyddedu morol, credaf y dylai penderfyniadau a wnaethpwyd ers i’r Ddeddf ddod i rym ddangos sut mae’r Ddeddf wedi cael ei hystyried. Yn unol â’m pwerau (y cyfeirir atynt uchod), ynghyd â fy addewid i wrando ar bryderon sy’n cael eu codi gan y cyhoedd, a monitro’r rhain i ganfod unrhyw faterion systemig ehangach ynglŷn â’r modd y mae cyrff cyhoeddus yn defnyddio’r Ddeddf, rwy’n talu sylw cyson i’r materion a’r pryderon y tynnir fy sylw atynt.

Fodd bynnag, ymddangosodd yr ymagwedd a fabwysiadwyd gan Gymorth Naturiol Cymru yn eu penderfyniadau trwyddedu amgylcheddol, llynedd, fel elfen gyffredin yn y pryderon y tynnwyd fy sylw atynt gan y cyhoedd a chynrychiolwyr lleol. Mae hyn wedi fy arwain i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i asesu cymhwysiad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r modd y mae’n rhyngweithio gyda Deddf yr Amgylchedd yn y broses drwyddedu amgylcheddol. Mewn perthynas â chymhwysiad y Ddeddf mewn penderfyniadau trwyddedu, rwyf yn ddiweddar wedi rhoi cyngor i Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru parthed cymhwysiad y Ddeddf yn ystod eu proses drwyddedu amgylcheddol.

Mae fy swyddfa’n dal i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar y matrics drafft a argymhellwyd yn fy llythyr a gyda Llywodraeth Cymru ar ganllawiau’n ymwneud â chymhwysiad y ddeddfwriaeth. Credaf y gallai fod yna weithiau sy’n bodoli ochr yn ochr â’r gwaith hwn a’r ymagwedd sy’n cael ei fabwysiadu parthed trwyddedu morol ac, felly, rwyf yn bwriadu codi’r mater gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru i ystyried ble y gallai’r argymhellion yr wyf wedi eu gwneud parthed trwyddedu amgylcheddol fod yn berthnasol hefyd i benderfyniadau ar drwyddedu morol yn y dyfodol. Rwy’n gresynu fodd bynnag, oherwydd amserlen y cais am drwydded (h.y. cyn i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddod i rym), na fedr y gwaith hwn effeithio ar y penderfyniad a gymerwyd mewn perthynas â Hinkley.

Gobeithiaf y bydd y gwaith y mae fy nhîm yn ei wneud gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei gwneud yn rhan annatod o brosesau penderfynu ar gyfer trwyddedau yn y dyfodol.