Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd yr amcanion a gyhoeddwyd ganddynt yn helpu i gyflawni’r nodau llesiant ar gyfer Cymru, fel sy’n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Dywed Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, bod y cyhoeddiad yn hollbwysig fel esiampl i’r 43 corff cyhoeddus arall yng Nghymru a fydd yn gosod eu hamcanion eu hunain yn gynnar y flwyddyn nesaf. Meddai:

“Mae hwn yn gam arwyddocaol ymlaen yng ngweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae Llywodraeth Cymru wedi gosod i’w hunan, fel y dylent, yr her o fod y corff cyhoeddus cyntaf i gynhyrchu’r amcanion llesiant sy’n ofynnol fel rhan o’r Ddeddf.

“Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd yr her ychwanegol o fod yn un o gyrff cyhoeddus mwyaf Cymru â’r sialens o weithio tuag at ddarparu cymorth ac arweiniad i bob un o’n cyrff cyhoeddus wrth i ni deithio gyda’n gilydd ar y siwrnai hon.

“Rwy’n croesawu eu didwylledd pan ddywedant eu bod yn gweld eu taith yn nhermau cael eu hymagwedd tuag at y Ddeddf yn gywir. Dim ond un rhan o hyn yw cyhoeddi amcanion lefel uchel; y rhan bwysicaf yw sut y maent yn byw yn ôl y Ddeddf, gan ddangos sut y mae’r Ddeddf yn fframwaith ar gyfer gosod cyllideb yn cynnwys symud at wariant ataliol, sut y maent yn integreiddio’n well ar draws portffolios gweinidogol ac adrannau, a sut y byddant yn datblygu polisi a rhaglenni mewn ffordd sy’n ennyn ymgyfraniad y bobl sy’n cael eu heffeithio.”

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gofyn am newid sylfaenol yn y modd y mae’n cyrff cyhoeddus yn gweithredu. Bydd pob un sy’n hyrwyddo’r Ddeddf, yn cynnwys y Cynulliad, yn craffu ar y modd y mae Llywodraeth Cymru’n dangos eu bwriad i wireddu’r newid hwn. Wrth wneud hyn bydd angen i’r Llywodraeth amlinellu’n glir dros y misoedd sy’n dod sut y bydd y pedair strategaeth a nodir o dan y Rhaglen Lywodraethu’n cyflawni yn erbyn yr amcanion llesiant a osodwyd ganddynt..

Aeth Ms Howe yn ei blaen:

“Rydyn ni’n dal yng nghyfnod cynnar gweithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ac, fel Comisiynydd, rwyf yn awyddus i annog amgylchedd agored a chynhwysol fel y gall ein holl wasanaethau cyhoeddus ddysgu ar y cyd. Rôl bwysig Llywodraeth Cymru yw creu’r awyrgylch ar gyfer hyn, drwy rannu eu hymagwedd tuag at osod yr amcanion hyn.“I have offered my support as they seek to further develop the objectives. In particular I will be looking for them to outline the steps they intend to take to meet their objectives, the timescales for doing so and how they will align resources to this.”

“Rwyf wedi cynnig fy nghymorth wrth iddynt ymdrechu i ddatblygu eu hamcanion ymhellach. Yn arbennig byddaf yn disgwyl iddynt amlinellu’r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i gwrdd â’u hamcanion, yr amserlen ar gyfer gwneud hynny a sut y byddant yn alinio adnoddau i hyn.

Yn y cyd-destun hwn, mae’r Comisiynydd wedi amlygu nifer o feysydd allweddol lle gall y Llywodraeth ddangos eu hymrwymiad i fyw yn ôl y Ddeddf. Er enghraifft, mae amcanion heddiw’n cynnwys ymrwymiadau i greu’r amodau ar gyfer rhoi cychwyn da mewn bywyd i bob plentyn a helpu pobl i fyw bywydau iach, annibynnol.

Dywed, “Yr hyn y byddwn yn edrych amdano, yw ymagwedd gydgysylltiedig ar draws pob adran. Er enghraifft, mae’r addewid gofal plant yn cynnig cyfle i gyflawni amcanion economaidd ond hefyd i hybu ffordd iach o fyw ar gyfer plant ac alinio rhaglenni sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd y blynyddoedd cynnar, gan adnabod ac atal Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (h.y. adnabod y plant sy’n byw mewn cartrefi lle mae camdriniaeth ddomestig, camddefnyddio sylweddau, materion iechyd meddwl a rhieni wedi gwahanu neu eu carcharu).

“Dim ond un enghraifft yw hon o’r modd y gall ystod o raglenni ddod at ei gilydd i ddarparu gwasanaeth cydgysylltiedig ynghylch plant, gan gael effaith gwirioneddol ar ganlyniadau eu bywydau ac ar genedlaethau’r dyfodol.

“Mae hefyd angen i Gymru symud tuag at ofal iechyd ataliol drwy fodelau arloesol megis presgripsiynu cymdeithasol lle rydym yn defnyddio’n hadnoddau naturiol yng Nghymru a’n trydydd sector i gynorthwyo pobl i fod yn iach a chadw’n iach, gan osgoi’r angen am ymyriadau meddygol drud. Mae gennym y cyfle i gyflwyno newidiadau sylfaenol, gan greu GIG a fedr ymdopi â heriau’r dyfodol.

“Rhaid i’n hisadeiledd hefyd fod yn addas ar gyfer y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, yn cynnwys gwres a digwyddiadau hinsawdd eithafol. Yng Nghymru mae dros 222,000 o gartrefi mewn perygl o lifogydd ac mae’r ffigur hyn yn debygol o gynyddu ynghyd â’r ffigur o £200 miliwn yr amcangyfrifir fydd y gost o’i ddatrys. Rhaid edrych ar lifogydd a newidiadau arfordirol fel blaenoriaeth gydag asiantaethau’n gweithio gyda’i gilydd i amddiffyn cymunedau.

“Mae mabwysiadu’r ymagwedd hon yn hollbwysig, nid yn unig oherwydd y pwysau sydd arnom, ond oherwydd ei fod yn gwneud synnwyr. Rwyf wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gynghori, i herio a’u cyfarparu hwy a’n holl gyrff cyhoeddus wrth i ni weithio gyda’n gilydd i gyflawni’r Gymru a Garem”.