“Mae’r cynigion i adeiladu ffordd i liniaru tagfeydd ar yr M4 am gost o £1.1bn yn methu nodi sut y bydd y cynllun yn cwrdd ag anghenion cenedlaethau’n dyfodol, a fydd yn ysgwyddo’r baich o dalu amdano,” medd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Bydd Ymchwiliad Cyhoeddus Lleol i’r cynllun yn clywed tystiolaeth yr wythnos nesaf. Meddai Ms Howe, sydd wedi cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig[1] i’r ymchwiliad:

“Cychwynnwyd ystyried y cynllun hwn 25 mlynedd yn ôl gyda’r prif fwriad o fynd i’r afael â thagfeydd cyfredol ond nid yw’n adlewyrchu’n gywir y datblygiadau technolegol sy’n trawsnewid ein ffordd o fyw, gweithio a theithio.

“Nid yw’n llwyddo i ystyried tueddiadau’r dyfodol mewn trafnidiaeth, sy’n dod i’r amlwg, megis y cynnydd cyflym yn nifer teithwyr rheilffyrdd dros y pum mlynedd diwethaf, dyfodiad arfaethedig cerbydau heb yrwyr a allai leihau tagfeydd, a’r newidiadau mewn patrymau gwaith sydd eisoes wedi gweld llai o bobl ag angen iddynt deithio i’r gwaith bob dydd. Mae’r tueddiadau hyn hefyd yn dangos bod dynion ifanc yn eu hugeiniau yn dewis peidio defnyddio’u ceir fel eu hoff ffordd o deithio (gyda’u nifer o filltiroedd mewn car, ar gyfartaledd, yn lleihau o ryw 2000 o filltiroedd y flwyddyn a 11% yn llai ohonynt yn dal trwyddedau gyrru), ac mae rhai arbenigwyr [2] yn rhagweld na fydd pobl ifanc sy’n cael eu geni heddiw yn dysgu gyrru oherwydd na fydd angen gwneud hynny oherwydd datblygiadau technolegol yn ein systemau trafnidiaeth.”

Mae Eiriolydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Plant yn Nghymru, Joshua Chohan, yn rhannu pryderon y Comisiynydd. Meddai:

“Pa beth bynnag fydd y penderfyniad, rwy’n gobeithio yr ystyrir yn llawn y goblygiadau i Blant a Phobl Ifanc cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, i wella, nid yn unig lesiant economaidd ond hefyd lesiant amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol cenedlaethau’r dyfodol ac i feddwl am effaith hirdymor y penderfyniadau a wneir ganddynt.

Meddai Ms Howe:

“Mae prosiectau seilwaith mawr fel y rhain yn rhoi cyfle delfrydol i’r rhai sy’n gyfrifol i ddangos sut y maent yn cyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Ddeddf. Nid wyf yn credu bod y cynllun arfaethedig wedi rhoi’r sylw priodol i’r egwyddor o wneud penderfyniadau mewn ffordd sy’n fanteisiol i genedlaethau’r dyfodol.

“Mae adeiladu ffyrdd yn ddatrysiad hen ffasiwn o fynd i’r afael â thagfeydd, a dylem, yn hytrach, fod yn anelu at fuddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus a fyddai’n ddatrysiad mwy defnyddiol ar gyfer y 25% o deuluoedd Cymreig nad oes ganddynt fynediad i gar tra hefyd yn cefnogi’r goblygiadau sydd gennym i leihau ein hôl troed carbon.

“Yn y pen draw gallai mabwysiadu’r ymagwedd hon fod yn ddull llawer gwell o wario £1.1bn y gellid ei ddefnyddio i gryfhau’n cefnogaeth i lesiant y rhai a fydd yn talu amdano”.

Nodiadau i olygyddion

Mae’r Comisiynydd ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r New Economics Foundation (NEF) i ddatblygu fframwaith i asesu prosiectau seilwaith gan ddefnyddio’r pum dull o weithio a’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gan ddefnyddio’r fframwaith i asesu ffordd liniaru arfaethedig yr M4, daeth y Comisiynydd i’r casgliad nad yw’r Cynllun yn ymddangos fel un a fydd yn cyflwyno llesiant i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, wrth ei ystyried mewn perthynas â’r nodau a’r dulliau o weithio a nodir yn y Ddeddf.

Nid yw’r Cynllun yn darparu digon o dystiolaeth a dadansoddiad o’i effaith hirdymor parthed pryderon critigol megis:

  • Cydnerthedd Ecolegol
  • Twf economaidd cynaliadwy a phriodol (yn unol â nod “Cymru Ffyniannus’ yn y Ddeddf)
  • Defnydd cymesur a chyfrifol o adnoddau
  • Ôl troed ecolegol ac allyriadau carbon yng Nghymru

Mae Tueddiadau’r Dyfodol yn cynnwys:

  • Cerbydau awtomataidd – gyda datblygiadau cyflym yn y sector gall na fydd angen i blant a enir heddiw yrru car a gallai hyn arwain ar y gallu i addasu i faint uwch o drafnidiaeth a llai o ddamweiniau.
  • Mae niferoedd teithwyr rheilffyrdd wedi cynyddu’n gyflym dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac nid oes arwydd bod hyn yn mynd i arafu.
  • Patrymau gwaith yn y dyfodol – rhagwelir y bydd patrymau gwaith hyblyg yn cynyddu.
  • Perchnogaeth Ceir – mae’r nifer o bobl sy’n berchen ceir wedi arafu, yn arbennig ddynion ifanc yn eu hugeiniau ac mae Milflwyddolion yn troi’n gynyddol ar symudedd yn ôl y galw megis drwy ddefnyddio Uber a ZipCar.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd yn peri i gyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a gyda’i gilydd, edrych i atal problemau a mabwysiadu ymagwedd fwy cydgysylltiedig.

I wneud yn siŵr ein bod yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant.

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel byd-eang

Pum dull o weithio

Hirdymor – Y pwysigrwydd o greu cytbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen i ddiogelu’r gallu i gwrdd ag anghenion yr hirdymor hefyd.

Atal – Sut y gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd helpu cyrff cyhoeddus i gwrdd â’u hamcanion.

Integreiddio – Ystyried sut y gall amcanion llesiant corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

Cydweithio – Gweithredu ar y cyd ag unrhyw gorff arall (neu wahanol rannau o’r corff ei hunan) a allai helpu’r corff i gwrdd â’i amcanion llesiant.

Ymgyfraniad – Pwysigrwydd ennyn ymgyfraniad pobl â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a wasanaethir gan y corf.

[1] Future Generations Commissioner evidence to the inquiry

[2] https://www.weforum.org/agenda/2017/01/having-a-baby-this-year-a-robotics-expert-thinks-theyll-never-drive-a-car