Byddai methu gwneud carbon isel yn rhan annatod o raglen Bargen Ddinesig Caerdydd yn anghyfrifol yn amgylcheddol ac economaidd” medd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i Gymru

“Dylai’r dyheadau ar gyfer y Fargen Ddinesig ganolbwyntio nid yn unig ar economi carbon isel ond rhaid iddi hefyd ddangos ei bod yn gweithio i bawb, ei bod yn mynd i’r afael â thlodi parhaus, afiechyd a chyfleoedd bywyd gwael ym mhob rhan o’r rhanbarth, yn hytrach na ffocysu ar seilwaith canol tref a dinas newydd ddisglair.

“Mae’r Fargen Ddinesig yn cynnig cyfle unigryw i’r deg awdurdod lleol sy’n ymgyfrannu i gydweithio ar gyfer gwireddu llesiant hirdymor cenedlaethau’r dyfodol.”

Cyn i adroddiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gael ei gyhoeddi ar ddydd Gwener, 16eg Rhagfyr, mae’r Comisiynydd wedi ysgrifennu at y rhai sy’n ymgyfrannu yn gosod yr her ac yn amlygu lle gall y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gael ei defnyddio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol y bobl sy’n byw a gweithio yn yr ardaloedd hyn.

Gan herio Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddangos sut y byddant yn cyflawni eu hymrwymiadau o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol newydd dywed Ms Howe:

“Mae’r Fargen Ddinesig yn rhaglen 20 mlynedd o hyd ac mae hyn yn rhoi cyfle i roi sylw i heriau parhaus megis y newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghyfartaledd, swyddi, a sgiliau mewn ffordd drawsffurfiol ac ataliol.

“Mae hefyd yn gyfle i’r deg awdurdod ddangos sut y maent yn defnyddio’r pum dull o weithio i gyfrannu hyd eithaf eu gallu tuag at y nodau llesiant fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf, gyda rhaglen fuddsoddi gyhoeddus bwysig.

Rhai o’r heriau a’r cwestiynau a amlygir gan y Fargen Ddinesig:

·         Sicrhau bod cyfleoedd busnes a gaiff eu dilyn drwy’r Fargen Ddinesig yn addas ar gyfer economi carbon isel

·         Sicrhau bod buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth, fel a gynigir, yn lleihau costau amgylcheddol teithio ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn dull realistig. Rhaid  ystyried ystod o senarios am anghenion teithio yn y dyfodol, megis newid patrymau gwaith, dulliau trafnidiaeth a goblygiadau poblogaeth sy’n heneiddio

·         Gweithredu ar anghyfartaledd mewn iechyd a llesiant a thorri cylchoedd tlodi a drosglwyddir o un genhedlaeth i’r llall

·         Rhoi mecanweithiau yn eu lle i sicrhau bod llais y gymuned yn sbardun allweddol mewn datblygiadau a fydd yn digwydd fel canlyniad i’r rhaglen hon

Wrth gloi, dywedodd Sophie Howe:

“Wrth i nifer cynyddol o ddinasoedd yn y DU ac ar draws y byd wneud datblygu cynaliadwy a’u dinasyddion yn rhan annatod o’u datblygu economaidd, byddem yn dadlau bod Dinas-Ranbarth Caerdydd yn haeddu dim byd llai nag ymagwedd weledigaethol debyg ar gyfer cenedlaethau’n dyfodol.