Llythyr i cyrff cyhoeddus Cymru gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ynglyn â galwad am dystiolaeth ar decarboneiddio a chyllidebau carbon.

Mae Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddefnyddio’r pum dull o weithio i facsimeiddio eich cyfraniad i’r saith nod llesiant – nifer ohonynt yn berthnasol i newid hinsawdd a charbon isel.

Yng Nghymru mae gennym hefyd Ddeddf yr Amgylchedd sy’n gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyllidebau carbon i Gymru gyda’r bwriad o leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr o 80% o leiaf erbyn 2050, i gynorthwyo’r uchelgais byd-eang y cytunwyd arno ym Mharis yn 2015.

Ar hyn o bryd mae yna ddwy Alwad am Dystiolaeth ar bwnc datgarboneiddio a chyllidebau carbon yr wyf yn awyddus i dynnu eich sylw atynt:

Mae’r gyntaf yn ymwneud â datganiad diweddar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig am ei huchelgais i weld y Sector Cyhoeddus yng Nghymru’n garbon niwtral erbyn 2030; mae Llywodraeth Cymru’n galw am farn pobl am y modd y gellir gwireddu hyn.

Cydnabu, er mai dim ond cyfran fach o allyriadau Cymru y mae’r sector cyhoeddus yn gyfrifol amdano, bod ei sefyllfa’n unigryw oherwydd ei ddylanwad ehangach ar allyriadau mewn meysydd fel trafnidiaeth, ynni a defnydd tir. Bydd ffocws ar leihau allyriadau nid yn unig yn mynd i’r afael â materion megis llygredd aer, a fyddai’n fanteisiol i iechyd, ond bydd hefyd yn cael effaith cadarnhaol ar yr economi lleol drwy leihau costau ynni a chreu cyfleoedd buddsoddi ar gyfer yr economi carbon isel.

Mae hefyd yn cydnabod y gwaith yr ymgymerwyd ag ef gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwy ei Brosiect Carbon Bositif. Wrth gyfrif effaith carbon net y sefydliad, gwelwyd bod dros 80% o’i allyriadau’n anuniongyrchol (h.y. nid yn deillio o’r ynni a ddefnyddiwyd ar ei ystâd nac o’i fflyd cerbydau), gyda 55% yn dod o gaffael nwyddau a gwasanaethau yn unig. Mae’r canlyniadau’n dangos bod y sefydliad yn garbon bositif net; gan storio mwy o garbon bob blwyddyn nag y mae’n ei ryddhau trwy ei waith.

Fel rhan o’r Prosiect, mae CNC wedi adnabod dewisiadau credadwy i leihau allyriadau ac amddiffyn a gwella stociau carbon. Er enghraifft, darganfu y gallai sicrhau i fyny at 27% yn llai o allyriadau o’i fflyd gerbydau drwy fabwysiadu dewisiadau cludiant isel eu hallyriadau.

Bwriad yr Alwad am Dystiolaeth yw archwilio’r mecanweithiau mwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni’r uchelgais hwn a’r gweithgareddau strategol priodol sy’n ofynnol, a buaswn yn eich annog i ystyried a chyfrannu cyn y dyddiad cau, sef 13eg Medi

Mae’r ail Alwad am Dystiolaeth wedi cael ei chyflwyno gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU, a bydd yn trwytho’r cyngor a ddarperir ganddynt i Lywodraeth Cymru ar bennu cyllidebau carbon a thargedau interim ar gyfer Cymru. Mae’n gofyn cwestiynau am y taflwybr y dylid ei ddilyn i leihau allyriadau yng Nghymru i gwrdd â tharged 2050 (lleihad o 80% o leiaf) o gadw mewn golwg nad ydym yn debygol o gwrdd â’r targed presennol o 40% o leihad erbyn 2020. Mae hefyd yn gofyn pa rôl fedr y Sector Cyhoeddus, ac eraill, ei chwarae mewn cyflawni lleihad mewn allyriadau a pha gyfleoedd sydd gennym i fabwysiadu ymagwedd wahanol o gadw mewn golwg y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Eto buaswn yn eich cynghori i ystyried yr Alwad hon am Dystiolaeth ac ymateb os medrwch, cyn y dyddiad cau, sef 11eg Medi.

Byddaf yn cynnal digwyddiad ym mis Tachwedd, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a CNC i: archwilio sut mae’r gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru’n medru ennyn ymgyfraniad pobl wrth gydweithio ac integreiddio eu gwaith, i dalu mwy o sylw i oblygiadau carbon eu gweithgareddau yn yr hirdymor, a helpu i atal effeithiau’r newid yn yr hinsawdd rhag hyd yn oed waethygu.