Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

  • Question

    Beth fedrwch chi fel dinesydd ei wneud i herio penderfyniad drwy ddefnyddio’r Ddeddf.

    Answer

    Mae cyrff cyhoeddus o dan ddyletswydd i ‘weithredu datblygu cynaliadwy’ yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae yna dair prif elfen i’r ddyletswydd (Adran 3):

    • Gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol llesiant yng Nghymru;
    • Gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i gwrdd â’u hanghenion hwythau, gan dalu sylw i’r pum dull o weithio);
    • Anelu at gyflawni’r nodau llesiant, sy’n cynnwys gosod amcanion llesiant.

    Mae yna  ddau lwybr y gall pobl eu dilyn i herio penderfyniadau: gallant herio’r corff cyhoeddus yn uniongyrchol; neu eu herio drwy’r gweithdrefnau cyfreithiol arferol.

    Yn gyntaf, yn seiliedig ar Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd ar gyfer prosiectau, a grybwyllir yng Nghwestiwn 12, efallai y bydd pobl yn dymuno gofyn cwestiynau i gorff cyhoeddus perthnasol sy’n seiliedig ar y 5 dull o weithio (gweler Cwestiwn 3) a amlinellir yn y Ddeddf:

    Ymgyfraniad – Pwysigrwydd ennyn ymgyfraniad pobl â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a wasanaethir gan y corff.

    Er enghraifft, sut mae cyrff cyhoeddus a’u partneriaid  wedi ennyn ymgyfraniad y bobl a fyddai’n cael eu heffeithio wrth drafod y gwahanol opsiynau ar gyfer penderfynu/gwneud cynnig (e.e. gyda phobl ifanc, trigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill)? Sut maen nhw wedi rhoi tystiolaeth eu bod wedi ymateb i’r hyn a ddywedwyd wrthynt gan bobl ac a fu’r broses yn dryloyw? Ydyn nhw wedi sicrhau bod y bobl sy’n ymgyfrannu’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal sy’n cael ei gwasanaethu gan y corff?

    Hirdymor – Pwysigrwydd creu cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen i warchod gallu’r genhedlaeth nesaf hefyd i gwrdd â’u hanghenion hirdymor.

    Er enghraifft, sut fydd yr ymagwedd arfaethedig yn gwella llesiant y bobl yn yr ardal leol a’r ardal ehangach yn  yr hirdymor? Sut fydd yn effeithio ar natur yr ardal a naws yr ardal erbyn y flwyddyn 2040 (ymhen cenhedlaeth)? Sut mae cyrff cyhoeddus wedi canfod y tueddiadau hirdymor sydd fwyaf perthnasol i’r prosiect hwn? A yw’r tybiaethau am dueddiadau’r dyfodol y mae’r datblygiadau’n seiliedig arnynt yn realistig? Pa effaith a gaiff y datblygiad hwn ar y tueddiadau hyn? A yw’r buddsoddiad sydd ei angen ar y cynllun yn cynrychioli gwerth da am arian o gadw mewn golwg anghenion cenedlaethau’r dyfodol? A yw adroddiad tueddiadau’r dyfodol Llywodraeth Cymru wedi ei ystyried?

    Atal  – sut y gallai gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.

    Er enghraifft, sut fydd y penderfyniad/cynnig yn atal problemau a wynebir gan Gymru – cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, amgylcheddol? A yw’r cynllun yn cynorthwyo chwalu cylchoedd negyddol megis tlodi, afiechyd, niwed amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth? Sut allai’r prosiect hwn leihau neu ddileu ei effeithiau negyddol ef ei hunan? Beth yw’r gwrthdaro sy’n ymddangos rhwng gwahanol agweddau ar lesiant a chynaliadwyedd a sut mae’r rhain wedi cael eu datrys?

    Integreiddio – Ystyried sut y gallai amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, neu ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.  

    Er enghraifft, sut fydd y penderfyniad yn effeithio ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol – ni all ffocysu ar un o’r meysydd hyn ar draul y lleill! Sut mae’r penderfyniad yn cynnwys cam rhesymol i gyflawni mwy nag un o’u hamcanion? Sut mae hyn yn effeithio ar amcanion llesiant y Cyngor ac ar waith y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus hyd yn hyn?

    Cydweithio – Cydweithio gydag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff ei hunan) a fedrai helpu’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant.

    Er enghraifft, a yw cyrff cyhoeddus wedi meddwl am y modd y gallai weithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill – yn cynnwys sefydliadau cyhoeddus, preifat a sefydliadau’r trydydd sector wrth wneud y penderfyniad hwn?

    Yn ail, gall torri dyletswydd yn y Ddeddf gael ei ystyried gan unrhyw lys neu gorff sy’n gyfrifol am weithredu’r gyfraith yng Nghymru. Gall y Ddeddf hefyd fod yn ystyriaeth faterol mewn systemau statudol sy’n bodoli eisoes, megis cynllunio, trwyddedu, caniatáu etc. Er enghraifft: gellir gwneud cwynion ffurfiol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus; gellir cychwyn adolygiad barnwrol; neu gall methu cydymffurfio â’r Ddeddf fod yn sail ar gyfer apelio i’r Arolygiaeth Gynllunio. Bydd y Comisiynydd yn ymroi i dynnu sylw at y llwybrau posibl y gellir eu dilyn gan bobl.

    Dylai pobl gadarnhau hefyd gyda’u cyfreithwyr, canolfannau’r gyfraith neu’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth pa lwybrau a agorir iddynt ym mhob achos.