Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

  • Question

    Pwy yw’r Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol presennol?

    Answer

    Comisiynydd presennol Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw Derek Walker. Cafodd ei benodi gan grŵp trawsbleidiol o Senedd Cymru a dechreuodd yn ei swydd ym mis Mawrth 2023. Gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano yma.

    Gorffennodd Sophie Howe, y Comisiynydd cyntaf, ei thymor ym mis Ionawr 2023.

  • Question

    Beth yw’r weledigaeth a nodir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

    Answer

    Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod yn ôl y gyfraith weledigaeth genedlaethol gyffredin ar gyfer llesiant yng Nghymru. Mae’n cyflwyno pedwar dimensiwn llesiant (amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd) sy’n paentio darlun cyfannol o les yng Nghymru.

    Er mwyn darparu mwy o fanylion am y weledigaeth o les yng Nghymru, mae’r gyfraith hefyd yn cyflwyno’r saith nod llesiant, sy’n fframio’r dimensiynau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae’r Ddeddf yn cynnwys disgrifiad manwl o bob lles. Mae eu diffiniad yn rhan o’r gyfraith ac ni ellir ei newid. Mae’r nodau yn set gyfannol o saith ac ni ddylid eu hystyried ar wahân.

  • Question

    Y 5 dull o weithio

    Answer

    Er mwyn sichau bod gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru brosesau gwell a’u bod yn meddwl yn wahanol wrth wneud penderfyniadau, mae’r Ddeddf hefyd yn nodi’r pum dull o weithio sy’n rhan o’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Nodir y dulliau hyn o weithio yn Adran 5(2) o’r gyfraith: 

    • Ymgyfrannu – Pwysigrwydd cynnwys pobl â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant a sicrhau bod y bobl hynny‘n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei wasanaethu.
    • Hirdymor  – Pwysigrwydd creu cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen i ddiogelu hefyd y gallu i ddiwallu anghenion hirdymor.
    • Atal –  Sut y gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
    • Integreiddio – Ystyried sut y gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
    • Cydweithredu –  Cydweithredu gydag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff ei hunan) a allai helpu’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant. 

    Mae’r dulliau hyn o weithio yn rhan bwysig iawn o’r gyfraith a gall eu mabwysiadu helpu cyrff cyhoeddus i newid eu hymddygiad a gwella llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.

  • Question

    What is the role of the Future Generations Commissioner?

    Answer

    Prif rôl y Comisiynydd yw helpu cyrff cyhoeddus i newid eu hymddygiad a dilyn gofynion newydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru.

    Dyletswydd y Comisiynydd, fel y nodir yn y gyfraith, yw hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy (sy’n nodi y dylai cyrff cyhoeddus geisio sicrhau bod anghenion cenedlaethau’r presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau).

    Rhaid i’r Comisiynydd weithredu fel gwarcheidwad anghenion cenedlaethau’r dyfodol a helpu cyrff cyhoeddus i feddwl yn yr hirdymor.

    I wneud hyn, gall roi cyngor i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf, Archwilydd Cyffredinol Cymru (y mae’n rhaid iddo gynnal o leiaf un archwiliad bob cylch 5 mlynedd ar y modd y mae pob corff cyhoeddus wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy), grwpiau o gyrff cyhoeddus a elwir yn Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, neu unrhyw berson a fedr gyfrannu i’r saith nod llesiant neu helpu i wella llesiant yng Nghymru.

    Mae’r Ddeddf yn berthnasol i gyrff cyhoeddus penodol, sy’n gorfod gosod a chyhoeddi eu hamcanion llesiant eu hunain sy’n sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i’r saith nod llesiant.

    Rhaid i’r Comisiynydd fonitro ac asesu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni’r amcanion llesiant hyn.

  • Question

    Beth yw rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru?

    Answer

    Prif rôl y Comisiynydd yw helpu cyrff cyhoeddus i newid eu hymddygiad a dilyn gofynion newydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru. 

    Dyletswydd y Comisiynydd, fel y nodir yn y gyfraith, yw hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy (sy’n nodi y dylai cyrff cyhoeddus geisio sicrhau bod anghenion cenedlaethau’r presennol yn cael eu diwallu heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau). Rhaid iddi weithredu fel gwarcheidwad anghenion cenedlaethau’r dyfodol a helpu cyrff cyhoeddus i feddwl yn yr hirdymor. 

    I wneud hyn, gall roi cyngor i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf, Archwilydd Cyffredinol Cymru (y mae’n rhaid iddo gynnal o leiaf un archwiliad bob cylch 5 mlynedd ar y modd y mae pob corff cyhoeddus wedi gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy), grwpiau o gyrff cyhoeddus a elwir yn Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, neu unrhyw berson a fedr gyfrannu i’r saith nod llesiant neu helpu i wella llesiant o’u mewn. 

    Mae’r Ddeddf yn berthnasol i gyrff cyhoeddus penodol, sy’n gorfod gosod a chyhoeddi eu hamcanion llesiant eu hunain sy’n sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl i’r saith nod llesiant.

    Rhaid i’r Comisiynydd fonitro ac asesu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni’r amcanion llesiant hyn.

  • Question

    Pa bwerau sydd gan y Comisiynydd?

    Answer

    Mae’n rhaid i’r Comisiynydd hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, fod yn warcheidwad cenedlaethau’r dyfodol ac annog cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. I wneud hyn, mae’r gyfraith yn caniatáu i’r Comisiynydd:

    • darparu cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus;
    • rhoi cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;
    • darparu cyngor neu gymorth i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â pharatoi ei gynllun llesiant lleol;
    • darparu cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd (neu’n dymuno cymryd) camau a allai gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant;
    • annog arfer gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
    • hybu ymwybyddiaeth ymhlith cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
    • annog cyrff cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd a chyda phobl eraill os gallai hyn eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;
    • ceisio cyngor panel cynghori mewn perthynas ag arfer unrhyw un o swyddogaethau’r Comisiynydd.

    Gall y Comisiynydd hefyd wneud ymchwil i’r graddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei hystyried yn y dangosyddion cenedlaethol a nodir gan Llwodraeth Cymru.

    Yn olaf, gall y Comisiynydd gynnal adolygiadau ffurfiol i roi cipolwg iddi ar sut mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw cynnal adolygiad yn caniatáu i’r Comisiynydd wrthdroi penderfyniadau penodol sydd eisoes wedi’u gwneud. Mae’n fecanwaith i ganfod a yw cyrff cyhoeddus yn diogelu cenedlaethau’r dyfodol ac i wirio a ydynt wedi meddwl am effaith hirdymor eu gweithredoedd. Ar ddiwedd adolygiad, gall y Comisiynydd wneud argymhellion i gyngor ar sut y dylai’r corff cyhoeddus gymhwyso’r Ddeddf yn y dyfodol.

  • Question

    Pa bwerau sydd gan y Comisiynydd?

    Answer

    Mae’n rhaid i’r Comisiynydd hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, fod yn warcheidwad cenedlaethau’r dyfodol ac annog cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. I wneud hyn, mae’r gyfraith yn caniatáu i’r Comisiynydd:

    • darparu cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus;
    • rhoi cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;
    • darparu cyngor neu gymorth i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus mewn perthynas â pharatoi ei gynllun llesiant lleol;
    • darparu cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd (neu’n dymuno cymryd) camau a allai gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant;
    • annog arfer gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
    • hybu ymwybyddiaeth ymhlith cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
    • annog cyrff cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd a chyda phobl eraill os gallai hyn eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;
    • ceisio cyngor panel cynghori mewn perthynas ag arfer unrhyw un o swyddogaethau’r Comisiynydd.

    Gall y Comisiynydd hefyd wneud ymchwil i’r graddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei hystyried yn y dangosyddion cenedlaethol a nodir gan Llwodraeth Cymru.

    Yn olaf, gall y Comisiynydd gynnal adolygiadau ffurfiol i roi cipolwg iddo ar sut mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw cynnal adolygiad yn caniatáu i’r Comisiynydd wrthdroi penderfyniadau penodol sydd eisoes wedi’u gwneud. Mae’n fecanwaith i ganfod a yw cyrff cyhoeddus yn diogelu cenedlaethau’r dyfodol ac i wirio a ydynt wedi meddwl am effaith hirdymor eu gweithredoedd. Ar ddiwedd adolygiad, gall y Comisiynydd wneud argymhellion i gyngor ar sut y dylai’r corff cyhoeddus gymhwyso’r Ddeddf yn y dyfodol.

  • Question

    Pa gyrff cyhoeddus y mae’r Ddeddf yn berthnasol?

    Answer

    Mae adran 6 o’r ddeddfwriaeth yn rhestru 48 o gyrff cyhoeddus penodol. Dyma nhw:

    • Llywodraeth Cymru;
    • Cynghorau Sir;
    • Byrddau Iechyd Lleol;
    • Iechyd Cyhoeddus Cymru;
    • Ymddiriedolaeth GIG Felindre;
    • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru;
    • Awdurdodau tân ac achub Cymru;
    • Cyfoeth Naturiol Cymru;
    • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;
    • Cyngor Celfyddydau Cymru;
    • Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
    • Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

    Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (2021) Gyd-bwyllgorau Corfforaethol, sydd hefyd yn ddarostyngedig i’r Ddeddf. Ar hyn o bryd mae pedwar Cyd-bwyllgor Corfforaethol.

    O dan y Ddeddf, rhaid i’r cyrff cyhoeddus hyn gyflawni datblygu cynaliadwy, sy’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, gosod a chyhoeddi amcanion llesiant. Rhaid i’r amcanion llesiant hyn gael eu cynllunio i facsimeiddio cyfraniad i’r 7 nod llesiant a rhaid i gyrff cyhoeddus gymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny.

    Mae’r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i rai Cynghorau Cymunedol gymryd pob cam rhesymol tuag at gyflawni’r amcanion lleol sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun llesiant lleol a gyhoeddir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus lleol. Mae’r ddyletswydd hon ond yn berthnasol i Gynghorau Cymuned sydd wedi cael incwm gros neu wariant o dros £200,000 am dair blynedd cyn cyhoeddi’r cynllun llesiant lleol.

    Mewn rhai achosion, gall y Ddeddf ymestyn i gyrff cyhoeddus eraill yn dibynnu ar lefel y dirprwyo a’r swyddogaethau y maent yn eu cyflawni.

  • Question

    Beth yw Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a ble maen nhw?

    Answer

    Crewyd Byrddau Gwasnaethau Cyhoeddus yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddisodli’r hen Fyrddau Gwasanaethau Lleol.  Eu nod yw annog cydweithredu ac integreiddio wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

    O dan y Ddeddf mae’n ddyletswydd ar Fyrddau Gwasnaethau Cyhoeddus i wella llesiant diwylliannol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol eu hardal trwy gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant. 

    Mae gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus aelodau statudol – y Cyngor lleol, y bwrdd iechyd lleol, yr awdurdod tân ac achub lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru – ond rhaid gwahodd cyrff eraill, fel Gweinidogion Cymru a sefydliadau gwirfoddol perthnasol, i gymryd rhan. [Am ragor o wybodaeth gweler Rhan 4, Adran 30 o’r Ddeddf a’r canllawiau statudol ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus: SPSF3]

    Mae rhai awdurdodau lleol wedi dewis uno’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer eu hardal a dyma pam mai dim ond 15 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus sydd yng Nghymru:

    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ynys Môn a Gwynedd
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd 
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion 
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf 
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys 
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg 
    • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam 

    Rhaid i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus asesu llesiant y boblogaeth yn eu hardaloedd, ac yna ddewis amcanion llesiant lleol a pharatoi cynllun llesiant lleol. Rhaid i bob aelod o’r Bwrdd wneud popeth o fewn eu gallu i gyflawni’r amcanion hynny. Rhoddodd y Comisiynydd gyngor i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar osod y cynlluniau a’r amcanion llesiant ar gyfer eu meysydd. Gallwch ddarllen mwy am waith y swyddfa gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yma.

  • Question

    Beth yw meysydd ffocws y Comisiynydd?

    Answer

    Dyletswydd y Comisiynydd yw hyrwyddo’r Ddeddf a helpu i wella llesiant yng Nghymru. Gall hyn gwmpasu mwy neu lai bob maes polisi a phob penderfyniad a wneir yng Nghymru.

    Penderfynodd y Comisiynydd ddewis y sawl mater mawr hyn, heriau a chyfleoedd sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol i ffocysu eu gwaith arnynt er mwyn cael effaith gwirioneddol a dwfn. Dewiswyd y meysydd ffocws yn dilyn proses drylwyr yn cynnwys dros 1,300 o bobl. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses yn y ddogfen ‘Datblygu Blaenoriaethau ar gyfer Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol’.

    Y meysydd ffocws a nodwyd fel y rhai â’r potensial mwyaf i wella pob un o’r pedwar dimensiwn llesiant (amgylcheddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd) yw:

    • Creu’r seilwaith cywir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan ffocysu ar:

    o Cynllunio

    o Trafnidiaeth

    o Stoc dai

    • Paratoi pobl ar gyfer y dyfodol:

    o Sgiliau ar gyfer y dyfodol 

    o Byw yn dda

    o Atal a mynd i’r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)

    • Meysydd newid corfforaethol trawsbynciol 
    • Datgarboneiddio
    • Cyllideb strategol 
    • Caffael

    Ystyriwyd yn ofalus ystyriaethau amgylcheddol gan sicrhau bod y blaenoriaethau a ddewiswyd hefyd yn rhai a all gael yr effaith cadarnhaol mwyaf ar yr amgylchedd, yn ogystal â’r tri dimensiwn arall na ellid eu gwahanu.

  • Question

    Pam na fedr y Comisiynydd ymwneud â meysydd gwaith eraill nad ydyn nhw wedi’u cynnwys yn ei meysydd ffocws?

    Answer

    Gall dyletswydd y Comisiynydd gwmpasu bron bob maes polisi a phenderfyniad posibl a wneir yng Nghymru. O ystyried cyfyngiadau ei chylch gwaith a’i chyllideb, penderfynodd y Comisiynydd ddewis ffocysu ar nifer o faterion mawr, heriau a chyfleoedd sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol er mwyn canolbwyntio’i chamau gweithredu mewn modd a fydd yn cael effaith wirioneddol a dwfn. 

    Rhaid i’r Comisiynydd ystyried ble i ymyrryd i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ym mhob rhan o Gymru. Mae hi, felly, yn gweithio ar lefel strategol i herio a dylanwadu ar bolisi sy’n effeithio ar benderfyniadau ledled Cymru gyfan. 

    Manylir uchod ar y meysydd ffocws y nodwyd bod ganddynt y potensial mwyaf i wella pob un o’r pedwar piler llesiant (amgylcheddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd) yn ‘Beth yw meysydd ffocws y Comisiynydd? 

    Bob blwyddyn, gyda’i thîm, mae’r Comisiynydd yn cynllunio map ffordd iddi hi a’i  thîm ffocysu eu hymdrechion arnynt. Mae cynllun gwaith eleni ar gyfer Ebrill 2021 – Mawrth 2022, wedi’i strwythuro o amgylch y pedwar pwrpas a nodwyd ar ddechrau tymor y Comisiynydd yn ei swydd, sef: 

    • Tynnu sylw at y materion a’r heriau mawr sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol a gweithredu arnynt.
    • Cefnogi a herio cyrff cyhoeddus i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
    • Bod yn rhan o’r Ddeddf a helpu i adeiladu mudiad dros newid.
    • Gweithredu’r geiriau – ysgwyddo’r newid rydyn ni am ei weld mewn eraill.

    I gael mwy o wybodaeth am waith y Comisiynydd a’r effaith a gyflawnwyd hyd yma, gallwch ddarllen ein hadroddiadau blynyddol yma. 

  • Question

    Pam na all y Comisiynydd ymwneud â meysydd gwaith eraill nad ydynt wedi’u cynnwys yn ei feysydd ffocws?

    Answer

    Gall dyletswydd y Comisiynydd gwmpasu bron bob maes polisi a phenderfyniad posibl a wneir yng Nghymru. O ystyried cyfyngiadau ei gylch gwaith a’i gyllideb, penderfynodd y Comisiynydd ddewis nifer o faterion, heriau a chyfleoedd mawr sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol i ganolbwyntio ei weithredoedd er mwyn cael effaith wirioneddol a dwfn. Rhaid i’r Comisiynydd ystyried ble i ymyrryd i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ym mhob rhan o Gymru.

    Felly mae’n gweithio ar lefel strategol i herio a dylanwadu ar bolisi sy’n effeithio ar benderfyniadau ar draws Cymru gyfan.

    Manylir uchod ar y meysydd ffocws y nodwyd bod ganddynt y potensial mwyaf i wella pob un o’r pedwar piler llesiant (amgylcheddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd) yn ‘Beth yw meysydd ffocws y Comisiynydd?

    Bob blwyddyn, gyda’i dîm, mae’r Comisiynydd yn dylunio map ffordd i ganolbwyntio ar ei dîm a’i ymdrech. Mae ein cynlluniau gwaith wedi’u strwythuro o amgylch pedwar diben a nodwyd ar ddechrau tymor cyntaf y Comisiynydd yn ei swydd, sef:

    • Tynnu sylw at y materion a’r heriau mawr sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol a gweithredu arnynt.
    • Cefnogi a herio cyrff cyhoeddus i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
    • Bod yn rhan o’r Ddeddf a helpu i adeiladu mudiad dros newid.
    • Gweithredu’r geiriau – ysgwyddo’r newid rydyn ni am ei weld mewn eraill.

    I gael mwy o wybodaeth am waith y Comisiynydd a’r effaith a gyflawnwyd hyd yma, gallwch ddarllen ein hadroddiadau blynyddol yma.

  • Question

    A all y Comisiynydd ymyrryd mewn penderfyniad?

    Answer

    Yn wahanol i Gomisiynwyr eraill, ni sefydlwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwilio i gwynion na darparu cefnogaeth gyfreithiol nac ariannol i unigolion sy’n ceisio datrysiad ar gyfer eu hachosion penodol. Nid yw ei rôl wedi’i sefydlu yn y gyfraith fel haen ychwanegol o apêl ar faterion penodol ac, yn benodol, wrth gynllunio.

    Nid oes gan y Comisiynydd y pwerau i gosbi cyrff cyhoeddus ac ni all wyrdroi penderfyniadau a wnaed eisoes.

    Mae hi wedi gosod meysydd ffocws, y mae hi’n ceisio sicrhau eu bod yn wirioneddol gynaliadwy ar bob lefel (e.e. polisi, ymddygiadau a gweithdrefnau cenedlaethol) ac mae hi wedi bod yn herio cyrff cyhoeddus sy’n ymwneud â’u cyflawni.

    Mae’r Comisiynydd wedi addo gwrando ar bryderon y cyhoedd. Mae wrthi’n ceisio nodi problemau cyffredin yn y nifer fawr o lythyrau y mae’n eu derbyn. Dyma pam, mae’r Comisiynydd wedi dyfeisio meini prawf i’w helpu i nodi problemau cyffredin, ac i weld a all helpu pan fydd y problemau hyn o fewn ei meysydd ffocws. Mae hyn yn cynnwys y cwestiynau canlynol:

    • A yw’n cynnwys cyrff a gwmpesir gan y Ddeddf?
    • A ellir dylanwadu ar y broses o hyd?
    • Beth yw graddfa’r prosiect / penderfyniad?
    • A yw’n effeithio ar fwy nag un rhan o Gymru neu ran sylweddol o’r boblogaeth?
    • A yw’n fater trawsbynciol?
    • A oes cynseiliau?
    • A yw’n dod o fewn ein meysydd blaenoriaeth?
    • A oes potensial ar gyfer gwybodaeth drosglwyddadwy?
    • A ydym wedi gwneud gwaith ar y mater hwn o’r blaen?
    • A allwn weithredu adnoddau?

    Dyma sut y penderfynodd y Comisiynydd ddefnyddio ei phwerau wrth gynllunio a chaniatáu amgylcheddol.

  • Question

    Sut gall y Comisiynydd helpu pobl?

    Answer

    Ni all y Comisiynydd ymchwilio i gwynion, gwrando ar apeliadau, cefnogi unigolion i geisio atebion cyfreithiol. Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru a benderfynodd hyn pan wnaethant greu ei swyddfa ac wrth iddynt basio Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Dyletswydd y Comisiynydd, fel y’i sefydlwyd yn y gyfraith, yw hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Rhaid iddi weithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol ac annog cyrff cyhoeddus i feddwl yn y tymor hir. Mae ei phwerau yn canolbwyntio ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Gall hi eu cynghori a’u cynorthwyo, fel eu bod yn gwella llesiant pobl Cymru.

    Mae’r Comisiynydd yn awyddus i rymuso pobl yn eu dealltwriaeth o’r Ddeddf a sut y gellir defnyddio’r Ddeddf i herio penderfyniadau a pholisïau. Mae hi’n cyhoeddi dogfennau a all helpu’r cyhoedd i ddefnyddio’r Ddeddf i gefnogi a herio cyrff cyhoeddus sy’n cael eu dal gan y gyfraith. Gellir defnyddio fframweithiau’r Comisiynydd, gan gynnwys Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer prosiectau, i gwestiynu sut mae’r Ddeddf a’i elfennau’n cael eu defnyddio mewn prosiectau a phenderfyniadau penodol.

    Fel rhan o’r rhaglen bartneriaeth, The Art of the Possible, mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi Teithiau i bob un o’r saith nod llesiant. Mae’r rhain yn darparu camau ymarferol (o Newidiadau Syml i gamau mwy uchelgeisiol) a all helpu cyrff cyhoeddus i gynyddu eu cyfraniad at y nodau i’r eithaf.

    Gall hyn hefyd ddarparu gwybodaeth i bobl am y Ddeddf a’i darpariaethau a gall gyfeirio pobl at sefydliadau, ffynonellau a gwybodaeth ddefnyddiol.

    Pan ddaw materion cyffredinol a chylchol i’r amlwg, gall y Comisiynydd godi’r mater gyda’r corff cyhoeddus perthnasol neu geisio dylanwadu ar bolisi cenedlaethol o fewn ei meysydd blaenoriaeth i effeithio ar newid yn y dyfodol.

  • Question

    Beth all aelodau’r cyhoedd ei wneud i herio penderfyniadau gan ddefnyddio’r Ddeddf?

    Answer

    Mae cyrff cyhoeddus o dan ddyletswydd ‘i gyflawni datblygu cynaliadwy’. Mae tair prif elfen i’r ddyletswydd:

    gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru;
    gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion, gan ystyried y pum ffordd o weithio);
    gan anelu at gyflawni’r nodau llesiant, sy’n cynnwys gosod amcanion llesiant.

    Mae dwy brif ffordd y gall pobl eu cymryd i herio penderfyniadau: gallant herio’r corff cyhoeddus yn uniongyrchol; neu eu herio trwy’r gweithdrefnau cyfreithiol arferol.

    Yn gyntaf, yn seiliedig ar Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd ar gyfer prosiectau, efallai y bydd pobl eisiau gofyn rhai cwestiynau i’r corff cyhoeddus perthnasol yn seiliedig ar y 5 ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf:

    Ymglymiad – Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant a sicrhau bod y bobl hynny yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu.

    Er enghraifft, sut mae’r cyrff cyhoeddus a’u partneriaid wedi cynnwys y bobl a fyddai’n cael eu heffeithio wrth drafod y gwahanol opsiynau ar gyfer y penderfyniad / cynnig (e.e. gyda phobl ifanc, preswylwyr, busnesau a rhanddeiliaid eraill)? Sut maen nhw wedi tystio eu bod wedi ymateb i’r hyn mae pobl wedi’i ddweud wrthyn nhw ac a yw’r broses wedi bod yn dryloyw? A ydyn nhw wedi sicrhau bod y bobl dan sylw yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal y mae’r corff yn ei gwasanaethu?

    Tymor Hir – Pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr â’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.

    Er enghraifft, sut y bydd y dull arfaethedig yn gwella llesiant pobl yr ardal leol a’r rhanbarth ehangach yn y tymor hir? Sut y bydd yn effeithio ar sut mae’r ardal yn edrych ac yn teimlo yn y flwyddyn 2040 (amser cenhedlaeth)? Sut mae cyrff cyhoeddus wedi nodi’r tueddiadau tymor hir sydd fwyaf perthnasol i’r prosiect hwn? A yw’r rhagdybiaethau sylfaenol ynghylch tueddiadau’r dyfodol y mae’r datblygiad yn seiliedig arnynt yn realistig? Pa effaith mae’r datblygiad hwn yn ei chael ar y tueddiadau hyn? A yw’r buddsoddiad sydd ei angen ar gyfer y cynllun yn cynrychioli gwerth da am arian ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol? A yw adroddiad tueddiadau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol wedi cael ei ystyried?

    Atal – Sut y gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.

    Er enghraifft, sut y bydd y penderfyniad / cynnig yn atal problemau y mae Cymru yn eu hwynebu – cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, amgylcheddol? A yw’r cynllun hwn yn cefnogi torri cylchoedd negyddol megis tlodi, iechyd gwael, difrod amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth? Sut y gallai’r prosiect hwn leihau neu ddileu ei effeithiau negyddol ei hun? Beth yw’r gwrthdaro sy’n dod i’r amlwg rhwng gwahanol agweddau ar lesiant a chynaliadwyedd a sut mae’r rhain wedi’u datrys?

    Integreiddio – Ystyried sut y gall amcanion llesiant y corff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar eu hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

    Er enghraifft, sut y bydd y penderfyniad yn effeithio ar les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol – ni all ganolbwyntio ar un o’r meysydd hyn, ar draul y lleill! A yw’r prosiect wedi cysylltu gwahanol feysydd o agendâu polisi cyhoeddus i gynhyrchu nifer o fuddion? Sut mae’r penderfyniad yn gam rhesymol i gyflawni un neu fwy o’u hamcanion? Sut mae’n effeithio ar amcanion llesiant y Cyngor a gwaith y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus hyd yn hyn?

    Cydweithio – Gweithredu mewn cydweithrediad ag unrhyw berson arall (neu wahanol rannau o’r corff ei hun) a allai helpu’r corff i gyflawni ei amcanion llesiant.

    Er enghraifft, a yw’r cyrff cyhoeddus wedi meddwl sut y gallai weithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill – gan gynnwys sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector wrth wneud y penderfyniad hwn?

    Mae llu o gwestiynau eraill yn ymwneud â holl elfennau’r Ddeddf (nodau, amcanion, a’r ffyrdd o weithio) yn y Fframweithiau a gall pobl ddewis a dewis, pa rai yw’r rhai mwyaf cymwys mewn achosion penodol.

    Yn ail, gall unrhyw lys neu gorff sy’n gyfrifol am gymhwyso’r gyfraith yng Nghymru ystyried torri’r ddyletswydd yn y Ddeddf. Gall y Ddeddf hefyd fod yn ystyriaeth berthnasol mewn systemau statudol presennol, megis cynllunio, caniatáu ac ati. Er enghraifft: gellir gwneud cwynion ffurfiol i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus; gellid cychwyn adolygiad barnwrol; neu gall diffyg cydymffurfio â’r Ddeddf fod yn sail i apêl i’r Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r Comisiynydd yn ceisio tynnu sylw’r llwybrau posib hyn at bobl.

    Dylai pobl hefyd wirio gyda’u cyfreithwyr, canolfannau cyfraith neu’r Swyddfa Cyngor ar Bopeth pa lwybrau sy’n cael eu hagor iddynt ym mhob achos.

  • Question

    Sut mae rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn wahanol i rôl Comisiynwyr eraill?

    Answer

    Mae yna wahanol fathau o gomisiynwyr yng Nghymru a ledled y byd. Rhoddir i bob un bwerau penodol yn y ddeddfwriaeth sy’n eu creu.

    Mae rôl Comisiynydd hefyd yn wahanol i rôl Ombwdsmon, sy’n ymchwilio i gwynion penodol yn erbyn cyrff penodol.

    Defnyddir y term Comisiynydd ar gyfer tri prif fath o weithgaredd:

     

    • Comisiynwyr sy’n rheoleiddio maes gwaith trwy osod safonau a gwirio cydymffurfiaeth a chosbi torri’r safonau;
    • Comisiynwyr sy’n hyrwyddo ac yn helpu’r bobl y maent yn gyfrifol amdanynt, i chwilio am atebion ffurfiol, gan gynnwys cymorth gydag achosion llys;
    • Comisiynwyr sy’n hyrwyddo egwyddor neu bolisi ac sy’n helpu eu gweithrediad trwy ddarparu cyngor a gwneud argymhellion.

    Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cynnwys yr ail a’r drydedd o’r elfannau hyn. Ei rôl yw dweud wrth bobl pam mae hawliau plant mor bwysig, ac edrych ar sut mae’r penderfyniadau a wneir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant. Mae ei rôl yn cynnwys gwrando ar blant a phobl ifanc i ddarganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw; dylanwadu ar y llywodraeth a sefydliadau eraill sy’n dweud eu bod yn mynd i wneud gwahaniaeth i fywydau plant er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cadw’u haddewidion, a siarad dros blant a phobl ifanc yn genedlaethol ar faterion pwysig – bod yn eiriolydd plant yng Nghymru.  

    Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru hefyd yn cynnwys yr ail a’r drydedd o’r elfennau hyn. Mae’r Comisiynydd yn llais ac yn hyrwyddwr annibynnol i bobl hŷn ledled Cymru, yn sefyll i fyny ac yn siarad ar eu rhan. Mae’r Comisiynydd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, yn herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru, yn annog arfer gorau wrth drin pobl hŷn yng Nghymru ac yn adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru. Er mwyn cyflawni’r swyddogaethau hyn, mae’r Comisiynydd yn dylanwadu ar bolisi ac arfer ar lefel genedlaethol a lleol, yn gweithio mewn partneriaeth â phobl hŷn a rhanddeiliaid i ysgogi newid a hyrwyddo arfer da, ac yn cynnal adolygiadau ffurfiol ac yn cyhoeddi canllawiau ffurfiol gan ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol unigryw. 

    Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys pob un o’r tair elfen a restrir uchod – rheoleiddiwr, eiriolydd siaradwyr Cymraeg, a hyrwyddwr sy’n rhoi cyngor a gwneud argymhellion i wneuthurwyr polisi. Mae ei rôl yn cynnwys hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gweithio i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac ymchwilio unrhyw ymyrraeth mewn rhyddid unigolyn i ddefnyddio’r iaith. 

    Mae rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn cynnwys yr elfen olaf yn unig, h.y. hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy a rhoi cyngor a gwneud argymhellion i gyrff cyhoeddus.

  • Question

    A fedr y Comisiynydd ymyrryd mewn penderfyniadau cynllunio?

    Answer

    O ran penderfyniadau cynllunio’n unig, mae dros 25,000 o benderfyniadau cynllunio’n cael eu gwneud yng Nghymru bob blwyddyn, y gellid gofyn i’r Comisiynydd eu hystyried, a dyna pam ei bod yn amhosibl iddi ystyried ceisiadau unigol. 

    Yn wahanol i Gomisiynwyr eraill, ni sefydlwyd rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwilio i gwynion na darparu cefnogaeth gyfreithiol nac ariannol i unigolion sy’n ceisio datrysiad ar gyfer eu hachosion penodol. Nid yw ei rôl wedi’i sefydlu yn y gyfraith fel haen ychwanegol o apêl ar faterion penodol ac, yn arbennig, faterion cynllunio. 

    Oherwydd adnoddau cyfyngedig a phwerau penodol, mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried ble i ymyrryd i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ym mhob rhan o Gymru. Mae hi, felly, yn gweithio ar lefel strategol i herio a dylanwadu ar bolisi sy’n effeithio ar benderfyniadau ledled Cymru gyfan. I gael mwy o wybodaeth am y gwaith rydyn ni wedi’i wneud o amgylch cynllunio, ewch i’n tudalen Cynllunio. 

    Fodd bynnag, mae’r holl faterion a godir gyda ni yn cael eu hystyried yn rheolaidd ac yn trwytho penderfyniadau’r Comisiynydd ar ble i ymyrryd yn strategol. O ganlyniad i bryderon a godwyd ynghylch y broses gynllunio penderfynodd y Comisiynydd ganolbwyntio ar weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio yng Nghymru trwy Bolisi Cynllunio Cymru, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r Llawlyfr ar Gynllunio Datblygu Lleol diweddaraf. Rydyn ni’n cydnabod, yn anffodus, y bydd yn cymryd amser i’r newidiadau hyn i’r polisi cynllunio cenedlaethol dreiddio i lawr i benderfyniadau unigol. 

  • Question

    A fedr y Comisiynydd ymyrryd mewn penderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud?

    Answer

    Yn wahanol i Gomisiynwyr eraill, ni sefydlwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwilio i gwynion na darparu cefnogaeth gyfreithiol nac ariannol i unigolion sy’n ceisio datrysiad ar gyfer eu hachosion penodol. Nid yw ei rôl wedi’i sefydlu yn y gyfraith fel haen ychwanegol o apêl ar faterion penodol ac, yn arbennig, faterion cynllunio. 

    Yn nhermau penderfyniadau cynllunio’n unig, mae dros 25,000 o benderfyniadau cynllunio’n cael eu gwneud yng Nghymru bob blwyddyn, y gellid gofyn i’r Comisiynydd eu hystyried, a dyna pam ei bod yn amhosibl iddi ystyried ceisiadau a phenderfyniadau unigol. 

    Prif rôl y Comisiynydd yw helpu cyrff cyhoeddus i newid eu hymddygiad a dilyn gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru. 

    Nid oes gan y Comisiynydd y pwerau i gosbi cyrff cyhoeddus ac ni all wyrdroi penderfyniadau sydd  eisoes wedi eu gwneud. 

    Gall y Comisiynydd gynnal adolygiadau ffurfiol i roi mewnwelediad iddi ar y modd y mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf, ond mae’n bwysig nodi nad yw cynnal adolygiad yn caniatáu i’r Comisiynydd wyrdroi penderfyniadau penodol sydd eisoes wedi eu gwneud. Mecanwaith ydyw i ddarganfod a yw cyrff cyhoeddus yn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol ac i wirio a ydynt wedi meddwl am effaith hirdymor eu camau gweithredu. Ar ddiwedd adolygiad, gall y Comisiynydd wneud argymhellion i gynghori ar y modd y dylai’r corff cyhoeddus gymhwyso’r Ddeddf yn y dyfodol. 

  • Question

    A all y Comisiynydd ymyrryd mewn penderfyniad?

    Answer

    Yn wahanol i Gomisiynwyr eraill, ni sefydlwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwilio i gwynion na darparu cefnogaeth gyfreithiol nac ariannol i unigolion sy’n ceisio datrysiad ar gyfer eu hachosion penodol. Nid yw ei rôl wedi’i sefydlu yn y gyfraith fel haen ychwanegol o apêl ar faterion penodol ac, yn benodol, wrth gynllunio. Nid oes gan y Comisiynydd y pwerau i gosbi cyrff cyhoeddus ac ni all wyrdroi penderfyniadau a wnaed eisoes.

    Rydym wedi pennu meysydd ffocws, yr ydym yn ceisio sicrhau eu bod yn wirioneddol gynaliadwy ar bob lefel (e.e. polisi cenedlaethol, ymddygiad a gweithdrefnau) ac rydym wedi bod yn herio cyrff cyhoeddus sy’n ymwneud â’u cyflawni. Mae’r Comisiynydd wedi addo gwrando ar bryderon y cyhoedd. Mae’n ceisio nodi problemau cyffredin yn y llythyrau niferus y mae’n eu derbyn. Dyna pam, mae’r Comisiynydd wedi dyfeisio meini prawf i’w helpu i nodi problemau cyffredin, ac i weld os a sut y gall helpu pan fo’r problemau hyn o fewn ein meysydd ffocws. Mae hyn yn cynnwys y cwestiynau canlynol:

    • A yw’n cynnwys cyrff a gwmpesir gan y Ddeddf?
    • A ellir dylanwadu ar y broses o hyd?
    • Beth yw graddfa’r prosiect / penderfyniad?
    • A yw’n effeithio ar fwy nag un rhan o Gymru neu ran sylweddol o’r boblogaeth?
    • A yw’n fater trawsbynciol?
    • A oes cynseiliau?
    • A yw’n dod o fewn ein meysydd blaenoriaeth?
    • A oes potensial ar gyfer gwybodaeth drosglwyddadwy?
    • A ydym wedi gwneud gwaith ar y mater hwn o’r blaen?
    • A allwn weithredu adnoddau?

    Dyma sut y penderfynodd y Comisiynydd ddefnyddio ei bwerau ym meysydd cynllunio a chaniatáu amgylcheddol.

  • Question

    A fedr y Comisiynydd ymyrryd mewn penderfyniad sydd eisoes wedi ei wneud?

    Answer

    Yn wahanol i Gomisiynwyr eraill, ni sefydlwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwilio i gwynion na darparu cefnogaeth gyfreithiol nac ariannol i unigolion sy’n ceisio datrysiad ar gyfer eu hachosion penodol.

    Nid yw ei rôl wedi’i sefydlu yn y gyfraith fel haen ychwanegol o apêl ar faterion penodol ac, yn benodol, ym maes cynllunio. Yn nhermau penderfyniadau cynllunio’n unig, mae dros 25,000 o benderfyniadau cynllunio’n cael eu gwneud yng Nghymru bob blwyddyn, y gellid gofyn i’r Comisiynydd eu hystyried, a dyna pam ei bod yn amhosibl iddo ystyried ceisiadau a phenderfyniadau unigol.

    Prif rôl y Comisiynydd yw helpu cyrff cyhoeddus i newid eu hymddygiad a dilyn gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Cymru.

    Nid oes gan y Comisiynydd y pwerau i gosbi cyrff cyhoeddus ac ni all wyrdroi penderfyniadau sydd  eisoes wedi eu gwneud.

    Gall y Comisiynydd gynnal adolygiadau ffurfiol i roi mewnwelediad iddi ar y modd y mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf, ond mae’n bwysig nodi nad yw cynnal adolygiad yn caniatáu i’r Comisiynydd wyrdroi penderfyniadau penodol sydd eisoes wedi eu gwneud. Mecanwaith ydyw i ddarganfod a yw cyrff cyhoeddus yn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol ac i wirio a ydynt wedi meddwl am effaith hirdymor eu camau gweithredu. Ar ddiwedd adolygiad, gall y Comisiynydd wneud argymhellion i gynghori ar y modd y dylai’r corff cyhoeddus gymhwyso’r Ddeddf yn y dyfodol.

  • Question

    A fedr y Comisiynydd ymyrryd mewn penderfyniadau cynllunio?

    Answer

    O ran penderfyniadau cynllunio’n unig, mae dros 25,000 o benderfyniadau cynllunio’n cael eu gwneud yng Nghymru bob blwyddyn, y gellid gofyn i’r Comisiynydd eu hystyried, a dyna pam ei bod yn amhosibl iddo ystyried ceisiadau unigol. Yn wahanol i Gomisiynwyr eraill, ni sefydlwyd rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i ymchwilio i gwynion na darparu cefnogaeth gyfreithiol nac ariannol i unigolion sy’n ceisio datrysiad ar gyfer eu hachosion penodol. Nid yw ei rôl wedi’i sefydlu yn y gyfraith fel haen ychwanegol o apêl ar faterion penodol ac, yn arbennig, ym maes cynllunio.

    Oherwydd adnoddau cyfyngedig a phwerau penodol, mae’n rhaid i’r Comisiynydd ystyried ble i ymyrryd i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ym mhob rhan o Gymru. Mae, felly, yn gweithio ar lefel strategol i herio a dylanwadu ar bolisi sy’n effeithio ar benderfyniadau ledled Cymru gyfan. I gael mwy o wybodaeth am y gwaith rydyn ni wedi’i wneud o amgylch cynllunio, ewch i’n tudalen Cynllunio.

    Fodd bynnag, mae’r holl faterion a godir gyda ni yn cael eu hystyried yn rheolaidd ac yn trwytho penderfyniadau’r Comisiynydd ar ble i ymyrryd yn strategol. O ganlyniad i bryderon a godwyd ynghylch y broses gynllunio penderfynodd y Comisiynydd ganolbwyntio ar weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio yng Nghymru trwy Bolisi Cynllunio Cymru, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a’r Llawlyfr ar Gynllunio Datblygu Lleol diweddaraf. Rydyn ni’n cydnabod, yn anffodus, y bydd yn cymryd amser i’r newidiadau hyn i’r polisi cynllunio cenedlaethol dreiddio i lawr i benderfyniadau unigol.

  • Question

    Sut gall y Comisiynydd helpu pobl?

    Answer

    Ni all y Comisiynydd ymchwilio i gwynion, gwrando ar apeliadau, cefnogi unigolion i geisio atebion cyfreithiol. Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru a benderfynodd hyn pan wnaethant greu’r swyddfa ac wrth iddynt basio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Dyletswydd y Comisiynydd, fel y’i sefydlwyd yn y gyfraith, yw hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Rhaid iddo weithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol ac annog cyrff cyhoeddus i feddwl yn y tymor hir. Mae ei bwerau yn canolbwyntio ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Gall eu cynghori a’u cynorthwyo, fel eu bod yn gwella llesiant pobl Cymru.

    Mae’r Comisiynydd yn awyddus i rymuso pobl yn eu dealltwriaeth o’r Ddeddf a sut y gellir defnyddio’r Ddeddf i herio penderfyniadau a pholisïau. Mae’n cyhoeddi dogfennau a all helpu’r cyhoedd i ddefnyddio’r Ddeddf i gefnogi a herio cyrff cyhoeddus sy’n cael eu dal gan y gyfraith. Gellir defnyddio fframweithiau’r Comisiynydd, gan gynnwys Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer prosiectau, i gwestiynu sut mae’r Ddeddf a’i elfennau’n cael eu defnyddio mewn prosiectau a phenderfyniadau penodol.

    Fel rhan o’r rhaglen bartneriaeth, Y Gallu i Greu, mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi Teithiau i bob un o’r saith nod llesiant. Mae’r rhain yn darparu camau ymarferol (o Newidiadau Syml i gamau mwy uchelgeisiol) a all helpu cyrff cyhoeddus i gynyddu eu cyfraniad at y nodau i’r eithaf. Gall y Comisiynydd hefyd roi gwybodaeth i bobl am y Ddeddf a’i darpariaethau a gall gyfeirio pobl at sefydliadau, ffynonellau a gwybodaeth ddefnyddiol. Pan ddaw materion cyffredinol a chylchol i’r amlwg, gall y Comisiynydd godi’r mater gyda’r corff cyhoeddus perthnasol neu geisio dylanwadu ar bolisi cenedlaethol o fewn ei meysydd blaenoriaeth i effeithio ar newid yn y dyfodol.